Polisi Defnydd Derbyniol
Trwy symud ymlaen i gael mynediad i'r Gwasanaeth hwn, byddwch yn cytuno i gael eich rhwymo'n gyfreithiol gan delerau'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn.
Mae'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn yn gosod y telerau a'r amodau am ddefnyddio Gwasanaeth Swyddi'r Gwasanaeth Iechyd ("y Gwasanaeth"), sydd yn rhan o wasanaeth penodi electronig a ddarperir neu a hwylusir gan gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd ac a osodir yn y Polisi Defnydd Derbyniol hwn ac yn y Drwydded (fel ag a ddiffinir isod). Diffinir yr holl eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Polisi hwn yn Adran 5 o'r Polisi hwn.
1. Cyffredinol
Mae'r Gwasanaeth yn darparu meddalwedd i hwyluso cyflwyniad gwasanaethau denu a phenodi sydd yn cynnwys sail data chwiliadwy o swyddi gwag a gyhoeddir gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd (fel ag a ddiffinir isod) yng Nghymru a Lloegr. Caiff y swyddi hyn eu cyhoeddi o bosibl mewn papurau newyddion neu gylchgronau.
Dehonglir y Polisi Defnydd Derbyniol yn unol â Chyfraith Cymru a Lloegr ac mae'n atebol i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr. Mae'n ofynnol hefyd ar gyrff y Gwasanaeth Iechyd sydd am ddefnyddio'r Gwasanaeth (fel ag a ddiffinir isod) i gysylltu â Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd ac i dderbyn telerau'r Drwydded ac i gydymffurfio â nhw, ac mae'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn yn rhan o'r Drwydded.
Mae'r holl sgriniau a'r holl ddata fel ag a ddiffinir isod yn destun hawlfraint ond gellir eu llwytho i lawr a'u hargraffu yn unig gan Gyrff y Gwasanaeth Iechyd a/neu Ymgeiswyr fel ag a ddiffinir isod at ddefnydd personol yn unig er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am swyddi gwag a hysbysebir neu i fod o gymorth i'r broses denu a phenodi ac nid ar gyfer elw masnachol neu ddefnydd elwol arall. Ni chaiff Cyrff y Gwasanaeth Iechyd, Ymgeiswyr (fel ag a ddiffinir isod) na thrydyddion eraill ddefnyddio, copï o na "sgrîn-grafu" arddangosiadau na throsglwyddo na dosbarthu unrhyw ddefnyddiau o'r Gwasanaeth mewn unrhyw ffordd arall. Erys hawlfraint testun yr hysbyseb a defnyddiau'r pecyn swyddi gyda Chorff perthnasol y Gwasanaeth Iechyd. Ni chaniateir i unrhyw un ddefnyddio na chyhoeddi sgrinau data nac unrhyw gynnyrch arall y Gwasanaeth hwn. Mae penderfyniad Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd parthed unrhyw geisiadau am ddefnyddio neu gyhoeddi sgrinau neu ddata o'r Gwasanaeth yn derfynol a gwneir y penderfyniad hwn o dan ryddid diamod y Cyflogwr.
Bydd Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn gywir ond ni wnawn unrhyw gyflwyniadau na warantau am gywirdeb, cyflawnder na ddigonedd y wybodaeth a roddir ynglŷn â'r wybodaeth a ddarperir ar y Gwasanaeth na fel rhan o'r Gwasanaeth nac a gynhwysir mewn lleoedd eraill yn y Gwasanaeth neu yn gysylltiedig â'r Gwasanaeth, na bod y Gwasanaeth yn rhydd o heintiau, a ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am gamddefnydd o'r Gwasanaeth. Ni allwn chwaith dderbyn atebolrwydd am unrhyw ganlyniadau yn berthynol i anallu unigolyn i ddefnyddio'r Gwasanaeth a ni allwn warantu fynediad di-dor i'r Gwasanaeth.
2. Yr Ymgeisydd
Mae angen cyfeiriad e-bost dilys pan fydd Ymgeisydd yn ymrestru â'r Gwasanaeth neu yn cyflwyno ffurflen gais.
Rhaid cadw cyfrineiriau mewn amgylchiadau diogel a rhaid peidio â'u rhannu. (Rhaid hysbysu Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd am unrhyw dor-gyfrinachedd a dybir ar unwaith).
Rhaid cyflwyno ffurflen gais wedi ei llenwi yn erbyn hysbyseb o swydd wag a'i gwneud yn affaeladwy trwy'r Gwasanaeth os bydd Ymgeisydd am gael ei ystyried am swydd. (Fel arfer, bydd Cyrff y Gwasanaeth Iechyd ond yn ystyried ceisiadau gan Ymgeiswyr sydd yn cwrdd â'r gofyniadau a nodir yn yr hysbyseb).
Rhaid bod y wybodaeth a roddir yn wir ac yn gywir o fewn pob ffurflen gais a gyflwynir.
Darperir datganiad yn y ffurflen gais a gynigir fel rhan o'r Gwasanaeth a ystyrir yn ddilys ac yn ymrwymol pan gytunir iddo trwy gyflwyno'r ffurflen gais.
Ni chaiff y wybodaeth a gynhwysir mewn hysbysiad swydd ei defnyddio at y dibenion canlynol:
- Lledu unrhyw ddefnyddiau anghyfreithlon, aflonyddol, enllibus, bygythiol, niweidiol, cwrs, anweddus, nac annerbyniol mewn unrhyw ffordd arall neu'n torri'r gyfraith mewn unrhyw ffordd arall;
- Trosglwyddo defnyddiau sydd yn annog ymddygiad a fyddai'n drosedd, sydd yn esgor ar atebolrwydd sifil neu sydd yn torri unrhyw gyfreithiau, rheolau neu ddulliau gweithredu perthnasol;
- Ymyrryd â defnydd neu fwynhad unrhyw arall o'r Gwasanaeth hwn; nac ychwaith
- Gwneud, trosglwyddo neu storio copïau electronig o ddefnyddiau a ddiogelir gan hawlfraint heb ganiatâd y perchennog.
3. Cyrff y Gwasanaeth Iechyd
- 3.1. Cytundeb
- Arwyddir y Drwydded am ddefnyddio'r Gwasanaeth gan Gyfarwyddwr Corff y Gwasanaeth Iechyd. Y Prif Weithredwr sydd yn atebol am y Gwasanaeth ar ran y Corff.
- Bydd Prif Weithredwr Corff y Gwasanaeth Iechyd yn sicrhau bod ganddi/o'r awdurdod priodol i weithredu yn rhinwedd Uwch Weithredwr.
- Yr Uwch Weithredwr fydd yn atebol am ddiogelu data, testunau diogelwch a rheolaeth gwybodaeth yn cysylltiedig â chyflawni gwasanaethau denu a phenodi ac am fynediad i'r Gwasanaeth a defnydd ohono.
- Bydd Cyrff y Gwasanaeth Iechyd yn sicrhau bod eu Prif Weithredwr, Rheolwyr Cyfrifon, Gweinyddwyr Denu a Phenodi, Rheolwyr Denu a Phenodi ac Aelodau Paneli Denu a Phenodi yn derbyn hyfforddiant yn y defnydd priodol o'r Gwasanaeth a'u bod yn gweithredu yn unol â thelerau ac amodau'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn ac amodau a thelerau unrhyw Drwydded gyda Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd
- 3.2. Hysbysebu
- Bydd pob hysbyseb swydd a roddir ar y Gwasanaeth yn ymwneud â swyddi'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru neu yn Lloegr a byddant yn gywir ac yn gyfreithlon.
- Bydd pob hysbyseb a roddir ar y Gwasanaeth yn caniatáu i Ymgeiswyr wneud cais trwy'r ffurflen gais ar-lein sydd yn rhan o'r Gwasanaeth hwn.
- Bydd Cyrff y Gwasanaeth Iechyd yn digolledi'r Gwasanaeth Iechyd rhag unrhyw hawliadau, atebolrwydd, costau, colledion, treuliau neu weithredu cyfreithiol o unrhyw fath sydd yn tarddu o hysbysebion a gyhoeddir neu weithredoedd neu hepgoriadau eraill Cyrff y Gwasanaeth Iechyd neu eu Mynediad Eilaidd neu unrhyw drydyddion yn gweithredu ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd neu sydd yn gysylltiedig â gweithredoedd neu ddiffygion o'r math.
- Ni ddylid rhoi hysbysebion ar y Gwasanaeth sydd yn annog pobl i beidio â gwneud ceisiadau trwy'r Gwasanaeth hwn yn egnïol.
- Mae Cyrff y Gwasanaeth Iechyd yn atebol am gynnwys dogfennau a hysbysebion a roddir trwy'r Gwasanaeth ac unrhyw Fynediad Eilaidd cysylltiedig.
- 3.3. Swyddi Gwag Mewnol a Swyddi Gwag Mynediad Cyfyngedig
- Rhaid bod Ymgeiswyr y rhoddir mynediad iddynt i swyddi gwag staff cyfyngedig yn gyflogedigion y Corff hwnnw o'r Gwasanaeth Iechyd sydd yn chwilio am Ymgeiswyr ac felly'n gysylltiedig â'r swyddi gwag cyfyngedig hynny.
- Dim ond y Corff hwnnw o'r Gwasanaeth Iechyd sydd yn eu cyflogi neu unigolyn arall sydd yn awdurdodedig i wneud hynny yn unol â'r telerau hyn all gyflwyno enwau Ymgeiswyr sydd â mynediad i swyddi gwag cyfyngedig.
- Bydd Ymgeiswyr sydd yn cael mynediad i swyddi cyfyngedig wedi cael eu hysbysu yn swyddogol ymlaen llaw cyn iddynt fynd i mewn i'r Gwasanaeth am y rhesymau am iddynt gael y fath fynediad.
- Dylid llwytho i lawr data sydd yn gysylltiedig â chronfa o swyddi cyfyngedig o'r Gwasanaeth o fewn 13 mis o ddyddiad cau'r gronfa honno a'u cadw ar systemau lleol yng Nghyrff y Gwasanaeth Iechyd
- 3.4. Atebolrwydd am y Gwasanaeth a Mynediad Eilaidd
- Bydd Corff y Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am gywirdeb unrhyw wybodaeth a gyflwynir trwy'r Gwasanaeth gan gynnwys trwy Fynediad Eilaidd.
- Bydd Corff y Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am ddiogelu data a diogelwch personol parthed defnyddio'r Gwasanaeth a gweithrediadau a hepgoriadau eraill trwy Fynediad Eilaidd
- Bydd Corff y Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am reoli cyfrifon a hawliau mynediad i Rhyngwyneb y Cyflogwyr ar ran y Corff hwnnw o'r Gwasanaeth Iechyd gan gynnwys trwy Fynediad Eilaidd.
- Bydd Corff y Gwasanaeth Iechyd yn sicrhau bod pob Gweinyddwr, Rheolwyr ac Aelodau Paneli Denu a Phenodi yn derbyn hyfforddiant ar eu defnydd o'r Gwasanaeth gan gynnwys trwy Fynediad Eilaidd.
- Bydd Corff y Gwasanaeth Iechyd yn sicrhau y bydd pob unigolyn â mynediad i Fynediad Eilaidd yn gweithredu yn unol â thelerau'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn a thelerau unrhyw Drwydded gyda Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd
- 3.5. Rhybudd Diogelwch Data
- Bydd Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yn cofnodi ystadegau ymweliadau â thudalennau am bob ymweliad er mwyn eu helpu nhw i weinyddu a gwella'r Gwasanaeth
- Bydd y data personol y bydd Ymgeiswyr yn eu rhoi ar y ffurflen gais a gyflwynir ganddynt ar gael i Gyrff perthnasol y Gwasanaeth Iechyd Storir y data yn ddiogel ar sail data'r Gwasanaeth a ni fydd ar gael i unrhyw Gorff arall o'r Gwasanaeth Iechyd
- Dilëir data'r cais a data'r swyddi a hysbysebwyd 13 mis ar ôl y dyddiad cau. Bydd Corff perthnasol y Gwasanaeth Iechyd yn cadw ffurflenni cais ymgeiswyr a benodwyd ar wahân fel rhan o'u cofnodion staff.
- Darperir data ystadegol ar weithgaredd denu a phenodi fel ag a benderfynwyd gan Gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd i'r Awdurdodau Iechyd Strategol a'r Adran Iechyd at ddibenion rheoli ymgyrchoedd a chynllunio'r gweithlu.
- Bydd Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yn cadw'r hawliau i ddefnyddio data cyffredinol parthed y Gwasanaeth at eu dibenion eu hunain gan gynnwys hyrwyddo'r Gwasanaeth.
- Corff y Gwasanaeth Iechyd yw'r rheolwr data parthed gwybodaeth y bydd yn ei defnyddio neu yn cael mynediad iddi trwy'r Gwasanaeth. Dylai Cyrff y Gwasanaeth Iechyd edrych ar delerau'r Drwydded gyda Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd ac yn unol â'r Polisi Defnydd Derbyniol hwnnw am ragor o fanylion.
- 3.6. Mynediad
- Rheolir a chynhelir y Gwasanaeth trwy adnabod a phenodi nifer addas o Reolwyr Cyfrifon, er mwyn sicrhau y rheolir mynediad a diogelwch yn briodol.
- Ni chaiff unrhyw drydyddion fynediad i'r Gwasanaeth heblaw am yr hyn a gytunir yn ffurfiol gan Gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yn unol â'r Polisi hwn.
- 3.7. Diogelwch
-
Yn y pendraw, bydd yr atebolrwydd am faterion diogelwch yn ymwneud â defnyddio'r Gwasanaeth gyda'r Prif Weithredwr yng Nghorff y Gwasanaeth
- Cedwir data personol (fel ag a ddiffinir o dan y Ddedf Diogelu Data 1998) yn ddiogel gan Gyrff y Gwasanaeth Iechyd a chânt eu defnyddio yn unol â'r cofrestriad diogelu data heb gael eu datgelu i drydyddion heb gydsyniad yr Ymgeisydd.
- Bydd Cyrff y Gwasanaeth Iechyd yn enwebu Uwch Weithredwr ac o leiaf dau Reolwr Cyfrifon ac yn sicrhau y rheolir mynediad i Ryngwyneb y Cyflogwyr a'r Gwasanaeth yn effeithlon er mwyn sicrhau y cynhelir diogelwch y Gwasanaeth.
4. Cyfleoedd Cyfartal
Mae Cyrff y Gwasanaeth Iechyd yn atebol am sicrhau bod cystadleuaeth deg ac agored a cyfleoedd cyfartal ar gael i bob Ymgeisydd bob amser.
Ystyrir ceisiadau ar-lein ar sail gyfartal â cheisiadau ysgrifenedig wrth ddethol pobl i lenwi'r swyddi a hysbysebir.
Byddwn yn cydymffurfio â'r Dulliau Gweithredu Rhyngwladol am Ddenu a Phenodi Gweithwyr Iechyd proffesiynol parthed defnydd o'r Gwasanaeth.
Diddymir hysbysebion sydd yn ymddangos yn gamarweiniol neu yn anaddas ar gais Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd.
Mae gan Gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yr hawl i ddiddymu o'r Gwasanaeth unrhyw hysbysebion sydd yn mynd yn groes i'r Polisi hwn.
5. Diffiniadau
- Rheolwr Cyfrifon
- - Unigolyn a adnabyddir gan yr Uwch Weithredwr i reoli'r Gwasanaeth ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd trwy gyfrwng Rhyngwyneb y Cyflogwyr. Mae gan y rheolwyr Cyfrifon atebolrwydd gweithredol am hawliau mynediad, canitâd a defnydd o'r Gwasanaeth gan Gorff y Gwasanaeth Iechyd. Bydd y Rheolwyr Cyfrifon yn gweithredu ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd yn eu defnydd o'r Gwasanaeth a bydd ganddynt fynediad i weld a phrosesu data personol teimladol. Dylid enwebu nifer briodol o Reolwyr Cyfrifon er mwyn sicrhau y rheolir a chynhelir y Gwasanaeth bob amser. Bydd gan y Rheolwyr Cyfrifon Gytundeb Cyflogaeth â Chorff y Gwasanaeth Iechyd.
- Mae'r Rheolwyr Cyfrifon yn gyfrifol am y canlynol:
- Goruchwylio defnydd beunyddiol y Gwasanaeth, gan sicrhau cyd-ymffurfiad â chanllawiau diogelwch a'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn.
- Sefydlu a chynnal y cyfrif, trwyddebau a mynediad.
- Sefydlu a chynnal llyfrgelloedd a dogfennau ar-lein.
- Sefydlu a chynnal gorchwylion swyddi cyfyngedig.
- Cynnal manylion diweddaraf cyflogwyr ar y Gwasanaeth.
- Gweithredu fel y prif fan gyswllt Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd gyda Chorff y Gwasanaeth Iechyd.
- Cynhwysion dogfennau a hysbysebion a osodir gan Gorff y Gwasanaeth Iechyd ac unrhyw Fynediad Eilaidd.
- Gwylio data personol teimladol Ymgeiswyr, gan gynnwys data Cyfle Cyfartal, enwau, cyfeiriadau cofnodion troseddol, enwau a llythyrau cefnogwyr, hanes gwaith, addysg, cymwysterau a gwybodaeth gefnogol.
- Ymgeisydd
- - unigolyn sydd yn mynd i mewn i'r Gwasanaeth trwy Ryngwyneb yr Ymgeiswyr o dan amodau a thelerau'r Polisihwn.
- Rhyngwyneb yr Ymgeiswyr
- - Y wefan i ymgeiswyr www.jobs.nhs.uk a grëwyd fel porth mynediad cyhoeddus y Gwasanaeth at ddibenion chwilio, gwylio a gwneud cais am swydd wag a osodwyd ar y Gwasanaeth.
- Rheolwr Data
- - Corff y Gwasanaeth Iechyd yw'r Rheolwr Data ar gyfer data personol brosesir ar gyfer yr unigolion hynny y prosesir eu data fel rhan o'r Gwasanaeth.
-
Prosesydd Data
- - Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yw'r Prosesydd Data sydd yn gweithredu ar ran Cyrff y Gwasanaeth Iechyd parthed unrhyw ddata personol a brosesir ar gyfer yr unigolion hynny y prosesir eu data fel rhan o'r Gwasanaeth.
- Mynediad Cyflogwyr
-
- proses a gynhelir gan aelod o'r staff a gyflogir neu a hurir gan Gorff y Gwasanaeth Iechyd i fynd i mewn i'r Gwasanaeth.
- Rhyngwyneb y Cyflogwyr
- - Y wefan a grëwyd fel porth mynediad preifat ar gyfer Cyrff y Gwasanaeth Iechyd at ddibenion defnyddio'r Gwasanaeth.
-
Trwydded
- - Trwydded rhwng Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd a Chorff y Gwasanaeth Iechyd ar ffurf gytuniedig gan Gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd ac sydd yn ofynnol i bob Corff y Gwasanaeth Iechyd sydd am ddefnyddio'r Gwasanaeth ei chael gan Gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd a chytuno i'w hamodau.
- Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd
- - Cwmni Cyd-ffederasiwn (Cyflogwyr) y Gwasanaeth Iechyd Cyfyngedig.
- Corff y Gwasanaeth Iechyd
-
- Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Cynradd, Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Trust, Ymddiriedolaeth Sefydliadol y Gwasanaeth Iechyd, Awdurdod Iechyd Arbenigol, Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru ac yn Lloegr a awdurdodwyd yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd 2006, neu gan yr Ysgrifennydd gwladol dros Iechyd yn gweithredu trwy'r Adran Iechyd neu unrhyw gorff arall a dybir i fod yn Gorff y Gwasanaeth Iechyd at ddibenion y Polisi hwn gan Gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd.
- Gweinyddwyr Denu a Phenodi
-
- a adnabyddir gan Reolwyr Cyfrifon am weinyddu gwasanaethau denu a phenodi ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd, trwy Ryngwyneb y Cyflogwyr. Gall y Gweinyddwyr Denu a Phenodi gyhoeddi, prosesu a gweinyddu hysbysebion a/neu ymgeisiadau swyddi gwag ar ran Cyrff y Gwasanaeth Iechyd. Bydd y Gweinyddwyr Denu a Phenodi'n gweithredu ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd wrth iddynt ddefnyddio'r Gwasanaeth a bydd ganddynt fynediad i weld a phrosesi data personol teimladol.
- Mae'r Gweinyddwyr Denu a Phenodi'n gyfrifol am y canlynol:
- Cynnal a gweinyddu'r broses denu a phenodi ar gyfer swyddi gwag eu Cyfundrefn.
- Rheoli swyddi gwag gan gynnwys cyhoeddi, golygyddu, dirwyn i ben ac archifio swyddi gwag.
- Rheoli ymgeisiadau a dderbynir.
- Defnyddio a rheoli'r cwestiynau ffiltro a ffiltro rhestrau Ymgeisyddion.
- Cyfathrebu ag Ymgeisyddion trwy orchwylion a gweithrediadau'r Gwasanaeth.
- Cynnig cefnogaeth i Rolewyr Denu a Phenodi ac Aelodau Paneli Denu a Phenodi wrth iddynt ddefnyddio'r Gwasanaeth.
- Cynhwysion dofennau a hysbysebion a osodir gan Gyrff y Gwasanaeth Iechyd
- Cofnodi canlyniadau rhestriadau byr a chyfweld ar y Gwasanaeth.
- Gweld data personol teimladol Ymgeiswyr, gan gynnwys data Cyfle Cyfartal, enwau, cyfeiriadau cofnodion troseddol, enwau a llythyrau cefnogwyr, hanes gwaith, addysg, cymwysterau a gwybodaeth gefnogol.
- Cyfrinachedd a diogelu data gwybodaeth ar Ymgeiswyr.
- Rheolwyr Denu a Phenodi
-
- dyma reolwyr llinell Corff y Gwasanaeth Iechyd sydd yn dal y cyfrifoldeb am y swydd wag. Sefydlir y Rheolwyr Denu a Phenodi gan Reolwr Cyfrifon i weld detholiad o swyddi gwag a cheisiadau ac i wneud sylwadau arnynt ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd, trwy Ryngwyneb y Cyflogwyr. Bydd y Gweinyddwyr Denu a Phenodi'n enwebu Rheolwr Denu a Phenodi ar gyfer swydd wag benodol. Bydd y Rheolwyr Denu a Phenodi'n gweithredu ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd yn eu defnydd o'r Gwasanaeth a bydd ganddynt fynediad i weld a phrosesu data personol.
- Mae'r Rheolwyr Denu a Phenodi'n gyfrifol am y canlynol:
- Overseeing the shortlisting process for selected vacancies.
- Goruchwylio y broses o lunio rhestr fer ar gyfer detholiad o swyddi gwag.
- Arolygu'r sylwadau a/neu'r pwyntiau a gyflwynir gan Aelodau'r Panel Denu a Phenodi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am ba Ymgeisydd(ion) i wahodd am gyfweliad.
- Cyflwyno sylwadau ar addasrwydd Ymgeiswyr a/neu roi pwyntiau i Ymgeiswyr yn erbyn y rhagdisgrifiad personol am y swydd.
- Rheoli canlyniad y broses o lunio rhestr fer ar y Gwasanaeth.
- Rheoli canlyniad y broses o gyfweliadau ar y Gwasanaeth.
- Gweld data personol yr Ymgeisydd a all gynnwys enwau, cofnodion troseddol, cefnogwyr, hanes gwaith, addysg, cymwysterau a gwybodaeth gefnogol.
- Cyfrinachedd a diogelwch data gwybodaeth ar Ymgeisyddion.
- Aelodau Panel Denu a Phenodi
- - - y bobl a enwebwyd gan y Rheolwr Denu a Phenodi i gefnogi gyda phenodi i swydd wag ar ran Cyrff y Gwasanaeth Iechyd . Bydd y Gweinyddwyr Denu a Phenodi yn enwebu Aelodau Panel Denu a Phenodi ar gyfer swydd i weld ymgeisiadau penodol ac i roi sylwadau arnynt. Bydd Aelodau'r Panel Denu a Phenodi'n gweithredu ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd yn eu defnydd o'r Gwasanaeth a bydd ganddynt fynediad i weld data personol.
- Mae Aelodau Panel Denu a Phenodi'n gyfrifol am y canlynol:
- Cefnogi'r Rheolwr Denu a Phenodi wrth lunio rhestr fer.
- Arolygu detholiad o ffurflenni cais a chyflwyno sylwadau ar addasrwydd Ymgeiswyr a/neu roi pwyntiau i Ymgeiswyr yn erbyn y rhagdisgrifiad personol am y swydd.
- Gweld data personol Ymgeisydd, a all gynnwys enwau, cofnodion troseddol, cefnogwyr, hanes gwaith, addysg, cymwysterau a gwybodaeth gefnogol.
- Cyfrinachedd a diogelwch data gwybodaeth ar Ymgeisyddion.
- Mynediad Eilaidd
- - mynediad i'r Gwasanaeth trwy Gorff y Gwasanaeth Iechyd gan uned neu gr ŵp ar wahân o fewn y Corff o'r Gwasanaeth Iechyd dan sylw neu gorff trydyddol a lle y cymeradwyir mynediad o'r math gan Gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd fel sefyllfa lle nad oedd angen unrhyw Drwydded bellach na'r hyn a arwyddwyd eisoes gan Gyrff y Gwasanaeth Iechyd Er enghraifft, bydd rhaid arwyddo trefniadau Trwydded bellach am fynediad i'r Gwasanaeth gan drydyddion yn darparu gwasanaethau denu a phenodi i Gyrff y Gwasanaeth Iechyd; ond gall amgylchiadau bodoli lle y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn ystyried y byddai hynny'n ddi-angen.
- Uwch Weithredwr
- - dyma'r uwch weithredwr mewn Corff o'r Gwasanaeth Iechyd y hysbyswyd ei (h)enw i Gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd ac sydd yn gyfrifol am ddefnydd cyfannol Corff y Gwasanaeth Iechyd o'r Gwasanaeth gan gynnwys cydymffurfiad rheoli gyda'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn a'r Drwydded mae'n ofynnol ar Gorff y Gwasanaeth Iechyd ei harwyddo yn unol â'r Polisi hwn. Bydd gan yr Uwch Weithredwr Gytundeb Gwaith gyda Chyrff y Gwasanaeth Iechyd.
-
Mae'r Uwch Weithredwr yn gyfrifol am y canlynol:
- Atebolrwydd Cyrff y Gwasanaeth Iechyd wrth ddefnyddio'r Gwasanaeth.
- Rheoli defnydd cyfannol y Gwasanaeth ac yn atebol am destunau diogelu data diogelwch yn gysylltiedig â chyflawni gwasanaethau denu a phenodi.
- Sicrhau cyd-ymffurfiad â chanllawiau diogelwch a thelerau ac amodau'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn.
- Sicrhau cyd-ymffurfiad â chyfrinachedd a Deddf Diogelu Data.
- Sicrhau cyd-ymffurfiad â gweinyddiaeth gwybodaeth.
- Enwebu Rheolw(y)r Cyfrifon ar ran Corff y Gwasanaeth Iechyd.
- Gwasanaeth
-
- Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yn cynnig y gwasanaethau denu a phenodi electronig a nodir yn y Polisi Defnydd Derbyniol hwn ac yn y Drwydded trwy Ryngwyneb y Cyflogwyr neu Ryngwyneb yr Ymgeisyddion.
6. Hysbysu newidiadau
Os bydd Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yn penderfynu newid telerau ac amodau Gwasanaeth, hysbysir Cyrff y Gwasanaeth Iechyd ac Ymgeiswyr trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth er mwyn sicrhau bod holl Gyrff y Gwasanaeth Iechyd ac Ymgeiswyr yn ymwybodol o'r telerau a'r amodau sydd yn rheoli defnydd o'r Gwasanaeth hwn.
Trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth hwn, mae Cyrff y Gwasanaeth Iechyd ac Ymgeiswyr yn cytuno i ddefnydd o'r wybodaeth yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y Polisi hwn.
Diweddariad 1af Gorffennaf 2008
© Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd 2008