Graddedigion meddygol rhyngwladol - cyfleoedd gwaith yn y GIG

Roedd newidiadau i'r rheolau mewnfudo yn 2008 yn atal llawer o raddedigion meddygol rhyngwladol (IMG) rhag dilyn swyddi hyfforddi meddygol yn y GIG ar sail eu statws mewnfudo Haen 1 (Cyffredinol) neu HSMP. Fodd bynnag, mae rhwydd hynt i raddedigion meddygol rhyngwladol a meddygon o'r tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) wneud cais a dilyn cyflogaeth mewn swyddi hyfforddiant a allai fod yn gymwys am nawdd dan Haen 2 system fewnfudo ar sail pwyntiau y Swyddfa Gartref, a ddisodlodd y cynllun trwydded waith blaenorol ym mis Tachwedd 2008.

Mae NHS Jobs yn gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru a Lloegr i helpu i hybu cyfleoedd addas ar gyfer meddygon o'r tu allan i'r EEA a allai fod yn gymwys am nawdd dan reolau Haen 2. Gellir adnabod y swyddi hyn yn hawdd gan eu bod yn cynnwys y geiriad "Gallai'r swydd hon fod yn addas ar gyfer ymgeiswyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu'r tu allan i'r EEA sy'n dymuno gwneud cais am nawdd Haen 2 y Swyddfa Gartref" yn yr hysbyseb. Mae rhestr lawn o gyfleoedd i'w chael yma , neu drwy gynnwys y geiriau allweddol "sy'n dymuno gwneud cais am nawdd Haen 2 y Swyddfa Gartref", gan gynnwys dyfynodau, yn y bocs Chwilio cyflym ar y dudalen hafan neu'r bocs Sgiliau wrth chwilio'n fanwl ac yn y gosodiadau swyddi-trwy-ebost.