Diweddaru'r canllaw i'r ffurflen gais

Mae'r canllaw i ffurflenni cais NHS Jobs wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n ddiweddar, ar sail sylwadau gan ymgeiswyr unigol a sefydliadau'r GIG.

Rhoddwyd gwybodaeth ychwanegol yn y canllaw ynghyd ag awgrymiadau i'ch helpu i gwblhau eich ffurflen gais. Rydym hefyd wedi paratoi siart llif sy'n ganllaw defnyddiol, cam wrth gam, y gallwch ei lawrlwytho fel dogfen PDF trwy NHS Jobs.

Rydym eisiau eich helpu i gael y cyfle gorau i ddod o hyd i'r swydd gywir yn y GIG trwy NHS Jobs. Rhowch ychydig funudau i ddarllen y cyngor sy'n y canllaw hwn.