Bydd Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn digwydd o ddydd Llun 7 tan ddydd Gwener 11 Chwefror, i arddangos doniau a sgiliau prentisiaid ac amlygu gwerth prentisiaethau.
Mae prentisiaethau yn cynnig llwybrau at nifer o yrfaoedd, gan gynnwys llawer yn y GIG, a hynny gyda chyfle i ennill incwm, dysgu a chael cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol ar yr un pryd.
Mae prentisiaethau yn addas i bobl sy'n chwilio am swydd, sy'n golygu y gallant barhau i ddysgu, ac i bobl sydd eisoes mewn gwaith ac sy'n dymuno cael cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Ar hyn o bryd mae miloedd o brentisiaid yn y GIG ac mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi bod cronfa gwerth £10 miliwn ar gael i greu 6,000 yn rhagor.
Mae prentisiaethau yn y GIG yn cael eu cynnig gan y sefydliadau unigol (fel ymddiriedolaethau), ac maen nhw'n anhygoel o amrywiol, o weithwyr cefnogi clinigol a chynorthwywyr fferyllfa i adnoddau dynol a gwasanaethau arlwyo.
Mae sawl mantais i fod yn brentis, gan gynnwys:
Dechreuodd Danny weithio yn y GIG fel cynorthwy-ydd gofal iechyd gydag Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai De Tees ac ymunodd â chynllun prentisiaeth yr ymddiriedolaeth ym mis Tachwedd 2005.
Fe ddilynodd lwybr prentisiaeth gyda'r nod o wireddu ei uchelgais i gael hyfforddiant i fod yn nyrs. Dechreuodd hyfforddi fel nyrs ym Mhrifysgol Teeside yn 2007, tra oedd yn dal i weithio'n llawn amser fel HCA.
Erbyn hyn mae Danny yn nyrs staff cymwys ar yr Uned Asesu Llym (AAU) yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai De Tees ac meddai: "Mae prentisiaeth yn llwybr da i unrhyw un sy'n meddwl am yrfa tebyg i mi gan ei fod yn ffordd o gael hyfforddiant mewn swydd. Mae profiad yn sicr yn rhan allweddol o'r cyfan, boed hynny'n wirfoddol neu'n rhan amser."
Teitl swydd: Cydgysylltydd hyfforddiant
Llwybr mynediad: Ymunodd â'r ymddiriedolaeth fel prentis yn dilyn lleoliad profiad gwaith
Mae Nathaniel Bailey-Morgan yn gydgysylltydd hyfforddiant yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Coleg King's yn Llundain. Ymunodd Nathaniel â'r ymddiriedolaeth fel prentis ar ôl i leoliad profiad gwaith ennyn ei ddiddordeb mewn gyrfa yn y GIG. Roedd y cyfweliad ar gyfer y brentisiaeth yn brofiad gwirioneddol dda iddo, gan fod yna awyrgylch cynnes i leddfu ei bryderon a'i rwystro rhag teimlo'n nerfus.
Mae swydd Nathaniel yn amrywiol ac yn cynnwys delio ag ymholiadau dros y ffôn, cofrestru pobl ar gyrsiau, helpu gyda rhaglen gyflwyno gorfforaethol yr ymddiriedolaeth a pharatoi taflenni i hysbysebu'r hyfforddiant.
Meddai Nathaniel: "Ymhen pum mlynedd, rwy'n gweld fy hun mewn swydd debyg ar lefel uwch, unwaith imi gael y cymwysterau a'r profiad angenrheidiol.
"Fe fyddwn yn sicr yn cynghori pobl ifanc eraill i ystyriaeth prentisiaeth yn y GIG - peidiwch ag oedi, gwnewch gais heddiw!"
Teitl swydd: Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Llwybr mynediad: Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes ar Lefel 2
Mae Thom newydd gwblhau Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes ar Lefel 2 yn Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sheffield. Cyn hyn, bu'n gwneud ei lefel A ac ar ôl bod yn y coleg fe ddechreuodd weithio mewn ffatri yn pacio. Cafodd Thom alwad gan Connexions, gan ei fod wedi cofrestru gyda nhw, ac fe sonion nhw am y prentisiaethau oedd yn cael eu cynnig yn ei ymddiriedolaeth GIG leol. Sylweddolodd Thom y byddai hyn yn rhoi dewisiadau iddo o ran ei yrfa a blwyddyn o brofiad gwerthfawr gyda chyflogwr cydnabyddedig.
Cofrestrodd Thom ar brentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes, a hyfforddi i fod yn gynorthwy-ydd gweinyddol. Diwrnod gwaith arferol i Thom oedd mynd ati i gadarnhau bod pob cwrs hyfforddi yn cael ei gynnal, anfon llythyrau, delio ag unrhyw ymholiadau a thrin data.
Meddai Thom: "Mae fy mhrentisiaeth wedi bod yn amrywiol dros ben, rwyf wedi gwneud llawer o wahanol swyddi a chael llawer o gyfrifoldebau a phob un yn rhoi cyfoeth o wybodaeth, profiad a sgiliau sy'n werthfawr dros ben."
Bellach, wedi cwblhau ei brentisiaeth, mae Thom wedi sicrhau swydd barhaol band 3 yn Ysbyty Plant Sheffield. Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â'm gyrfa o fewn y GIG, ac rwy'n teimlo bod yr help, anogaeth a chefnogaeth a gefais gan yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn hollbwysig wrth gael cyflogaeth bellach yn yr Ysbyty Plant."
Teitl swydd: Swyddog Clerigol Data
Llwybr mynediad: Cwblhau uwch gymhwyster prentisiaeth wrth weithio mewn swydd weinyddol yn yr ymddiriedolaeth
Dechreuodd Emily Shaw weithio yn y GIG pan oedd hi'n 16, fel clerc ward llanw yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Efrog. Wedyn fe wnaeth gais am ei swydd bresennol fel swyddog clerigol data, ar ôl gweld yr hysbyseb ar wefan NHS Jobs. Cafodd Emily gyfle i gwblhau Uwch Brentisiaeth Lefel 3 tra bu'n gweithio i'r ymddiriedolaeth. Roedd hi'n teimlo bod hwn yn gymhwyster da i'w ychwanegu at ei CV ac fe wnaeth hi fwynhau cwblhau'r cwrs yn fawr.
Mae rôl Emily yn golygu gweithio ar y ward gwddf y ffemwr, a'r uned strôc llym yn Ysbyty Efrog. Mae hi'n rhoi data cleifion ar eu cronfeydd data, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, amser dod i mewn i'r ysbyty ac amser eu sgan CT neu belydr-x cyntaf.
Mae Emily yn teimlo bod astudio ar gyfer y cymhwyster prentisiaeth wedi bod yn brofiad gwerthfawr dros ben ac meddai: "Rwy'n teimlo'n fwy hyderus a sicr ynghylch ble'r wyf eisiau bod yn y dyfodol. Erbyn hyn fe hoffwn fwrw ymlaen â chwrs byr ar reoli yn y Brifysgol Agored ac yna, os bydd popeth yn mynd yn iawn, dechrau meddwl am radd mewn busnes neu arwain a busnes. Gobeithio y bydd hyn o gymorth i mi weithio fy ffordd i fyny'r ysgol o fewn y GIG."
Dechreuodd Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Calon Lloegr recriwtio prentisiaid ym mis Tachwedd 2009.
Gallwch chwilio am swyddi prentisiaeth yn genedlaethol ac yn eich ardal chi ar wefan NHS Jobs. Mae swyddi gweigion yn cael eu rhestru hefyd ar y wefan ar gyfer prentisiaethau cenedlaethol.