Mae GIG Llundain a GIG Dwyrain Canolbarth Lloegr yn cynnig cyfleoedd i ymwelwyr iechyd cymwysedig ddychwelyd i weithio. Mae ysgoloriaethau a chyrsiau wedi’u hariannu’n llawn yn cael eu cynnig i ymgeiswyr llwyddiannus a adawodd y proffesiwn o leiaf 5 mlynedd yn ôl. Byddwch hefyd yn cael eich ailgofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth os yw’ch cofrestriad wedi dod i ben.
Mae ymwelwyr iechyd o’r tu allan i Lundain a Dwyrain Canolbarth Lloegr yn cael gwneud cais ond rhaid i chi fod yn barod i deithio i’r prifysgolion sy’n darparu’r cyrsiau. Y prifysgolion dan sylw yw City University yn Llundain, Buckinghamshire New University, Prifysgol Northampton a Phrifysgol Nottingham.
Wedi cwblhau’r cwrs dychwelyd i weithio, bydd cyfleoedd gwaith ar gael ar draws Llundain a Dwyrain Canolbarth Lloegr. Gallwch wneud cais am y lleoedd hyfforddiant gyda Dwyrain Canolbarth Lloegr yma a Llundain yma.
Hefyd, dyma atebion i rai cwestiynau cyffredin ynghylch y cyfleoedd hyn
.I gael gwybod mwy, ffoniwch NHS Careers ar 0345 60 60 655 neu llenwch eu ffurflen cysylltu â ni.
Os nad ydych yn ymwelydd iechyd cymwysedig ond bod hon yn yrfa sydd o ddiddordeb i chi, ewch i NHS Careers.