Oherwydd newidiadau yn y rheolau mewnfudo, mae'n bosib na fydd rhai meddygon tramor gyda startws mewnfudo dan Haen 1 (Cyffredinol) neu statws mewnfudo HSMP presennol yn cael llenwi swyddi meddygol/hyfforddi o fewn y GIG oherwydd gwaharddiad a allai fod wedi'i roi arnynt adeg y cais.
Fodd bynnag, mae Graddedigon Meddygol Rhyngwladol (IMG) a meddygon o'r tu allan i'r AAE yn rhydd i wneud cais a llenwi unrhyw swydd, gan gynnwys swyddi hyfforddiant a all fod yn gymwys ar gyfer nawdd dan Haen 2 system fewnfudo ar sail pwyntiau y Swyddfa Gartref.
Mae NHS Jobs yn parhau i weithio gyda chyflogwyr y GIG ledled Cymru a Lloegr i helpu i hyrwyddo cyfleoedd addas ar gyfer meddygon o'r tu allan i'r AAE a allai fod yn gymwys ar gyfer nawdd dan reolau Haen 2.
Gallwch ddod o hyd i'r cyfleoedd gwag hyn trwy glicio ar 'Gweld mwy o ddewisiadau' yn yr adran 'Edrych ar swyddi' ar y dudalen hafan a sgrolio i lawr at 'Meddygon Tramor' cyn clicio ar 'Swyddi addas ar gyfer ymgeiswyr o'r tu allan i'r AAE'.