Enillwyr cystadleuaeth 'Wyneb NHS Jobs' ar y wefan nawr

Mae enillwyr y gystadleuaeth genedlaethol i 'Ddod o hyd i Wyneb' NHS Jobs yn fyw erbyn hyn ar wefan NHS Jobs a gallwch ddarllen eu straeon yma.

Fe gafodd yr 15 enillydd eu dewis o blith bron i 800 o geisiadau gan ddangos mor amrywiol yw'r gweithlu o 1.4 miliwn yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) - o nyrsys i gogyddion, o weinyddwyr i wyddonwyr.

Dywedodd Gill Bellord, NHS Employers:

"NHS Jobs yw un o'r gwefannau recriwtio mwyaf poblogaidd yn y wlad, gyda thros chwe miliwn o ymwelwyr bob mis. Rwyf wrth fy modd y bydd y wefan bellach yn cynnwys hanesion y bobl go iawn sy'n gweithio mor galed yn y GIG, gan roi gwasanaeth ardderchog i gleifion. Trwy eu hanesion bydd ymwelwyr â gwefan NHS Jobs yn cael cipolwg diddorol tu hwnt ar sut brofiad yw gweithio yn y GIG."

Dyma'r 15 enillydd:

  • Fiona Heath-Brown, Uwch Ffisiotherapydd, GIG Swydd Warwick
  • Jan Jayatilake, Rheolwr Gwasanaeth i Gleifion Mewnol, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Mayday
  • Angela Kennedy, Rheolwr Rhaglen Gwybodaeth a Thechnoleg, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Clatterbridge dros Oncoleg
  • Helen King, Ysgrifennydd/Cydgysylltydd, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Scarborough a Gogledd-ddwyrain Swydd Efrog
  • Gordon Kochane, Rheolwr Prosiectau Adnoddau Dynol, GIG Swydd Efrog a Humber
  • Herbert O Lynch, Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Lewisham
  • Victoria McMahon, Ymarferydd Gofal Brys, Gwasanaeth Ambiwlans Great Western
  • Sandra Ojok, Gwyddonydd Biofeddygol, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Mayday
  • Zoe Page, Rheolwr Prosiectau, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Stockport
  • Cheryl Phillips, Nyrs Gofrestredig, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
  • Victoria Rawlinson, Cynorthwy-ydd Personol Tîm Rheoli Clinigol, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Unedig Swydd Lincoln
  • Paul Steinberg, Uwch Arbenigwr ar Hybu Iechyd, GIG Lambeth a Southwark
  • Margaret Tinkler, Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai South Tees
  • Paula Wheat, Uwch Ymarferydd Nyrsio Pediatrig, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Salford Royal
  • Jaime Williamson, Cynorthwy-ydd Arlwyo, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Derby