Llinell Gymorth y GIG: Straen y Wasgfa Gredyd

Poeni am y dirwasgiad? Fe all Llinell Gymorth y GIG: Straen y Wasgfa Gredyd helpu.

Llinell Gymorth y GIG: Straen y Wasgfa Gredyd - 0300 123 2000
8am-10pm, saith diwrnod yr wythnos

Os ydych chi'n teimlo dan bwysau neu dan straen oherwydd ansicrwydd ynghylch eich swydd, diswyddo, dyled neu broblemau ariannol, peidiwch â gadael i bethau waethygu cyn chwilio am help.

Mae Llinell Gymorth y GIG: Straen y Wasgfa Gredyd ar agor saith diwrnod yr wythnos a gallwch siarad â chynghorydd iechyd cymwys am y materion sy'n effeithio arnoch chi a'ch teulu. Gallant gynnig cyngor ymarferol, eich cyfeirio at adnoddau a'r bobl fydd yn gallu eich helpu, fel gwasanaethau cyflogaeth, dyled, tai, cynghori a therapi siarad.

I gael gwybod mwy ewch i www.nhs.uk/creditcrunch neu ffoniwch y Llinell Gymorth ar 0300 123 2000.