

Dechreuais weithio yn y GIG pan oeddwn yn 19, fel cynorthwy-ydd ysgrifenyddol yn yr adran orthopedeg. Roeddwn yn ddigon ffodus i weithio mewn gwahanol rannau o'r adran, gan ddysgu sgiliau gwahanol o bob maes a gweld sut oedd pob tîm yn gweithio'n wahanol. Yn y diwedd fe es i'r adran orthopedig fel ysgrifenyddes feddygol ac wedyn symudais i'r tîm rheoli adrannol i ddod yn gynorthwy-ydd personol i'r rheolwr adrannol.
Erbyn hyn rwy'n gweithio o fewn y tîm rheoli clinigol fel cynorthwy-ydd personol i ddau reolwr gwasanaeth clinigol, sy'n gofalu am ofal wedi'i gynllunio a gofal brys, a'r rheolwr gweithrediadau. Mae gennym dîm gwych ac rwyf mor hapus yn gweithio gyda'r bobl wych yma sydd i gyd yn gweithio mor galed i gadw pethau i fynd. Mae yna amrywiaeth mawr bob dydd, yn dda a drwg, ac mae pawb yn cyd-dynnu i weithio trwy'r heriau.
Dydy pobl ddim yn gweld beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni ac mae'n fraint cael chwarae rhan fach yn hyn. Mae ysbytai yn fwy na dim ond meddygon, nyrsys a chleifion. Mae'n llawer ehangach na hynny ac yn aml mae'n hawdd iawn anghofio am yr ochr weinyddol.
Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn y GIG ac yn mwynhau popeth am y swydd. Dyma'r swydd orau un ac mae llawer o fanteision yn perthyn iddi.