Sandra Ojok: Gwyddonydd Biofeddygol

Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Mayday

Sandra Ojok: Gwyddonydd Biofeddygol

Rwy'n wyddonydd biofeddygol ifanc, yn gofrestredig gan y wladwriaeth ac yn gweithio mewn labordy hematoleg a thrallwyso gwaed yn ysbyty prysur Mayday yn ne Llundain. Er bod y gwaith yn heriol, mae fy swydd yn rhoi boddhad i mi ac mae'n rhoi bodlonrwydd mawr.

Pan oeddwn yn y brifysgol yn astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor fiofeddygol, allwn i ddim disgwyl i fynd allan i'r byd go-iawn i weithio fel gwyddonydd biofeddygol trwy ddadansoddi, dehongli a diagnosio amrywiaeth o gyflyrau hematolegol. Sef helpu cleifion yn y pen draw.

Y tu allan i waith, rwy'n mwynhau chwaraeon a ffitrwydd ac yn ddiweddar fe fues yn cymryd rhan mewn taith gerdded i godi arian i elusen a chodi ymwybyddiaeth o anemia crymangell.

Mae'r GIG wedi parhau i roi cyfleoedd ffantastig i mi symud ymlaen mewn maes rwy'n frwdfrydig yn ei gylch. Rwy'n gwybod y bydd gen i yrfa hir ac iach fel gwyddonydd biofeddygol yn y GIG.