Paula Wheat: Uwch Ymarferydd Nyrsio Pediatrig

Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Salford Royal

Paula Wheat: Uwch Ymarferydd Nyrsio Pediatrig

Mae'r ffordd y mae fy ngyrfa wedi datblygu yn y GIG yn enghraifft wych o'r cyfleoedd sydd ar gael trwy'r GIG fel cyflogwr.


Gadewais yr ysgol yn 16 gyda llond llaw o arholiadau TGAU ac ymunais â'r GIG fel myfyrwraig nyrsio. Gweithiais fy ffordd trwy'r rhengoedd gan ennill amryw o gymwysterau gan gynnwys gradd feistr. Bûm yn nyrs ardal ac ymwelydd iechyd ac yn ddiweddar, fe wnes i gymhwyso fel un o'r cyntaf i fod yn uwch ymarferydd nyrsio pediatrig (APNP). Bellach rwy'n gweithio yn un o'r unedau APNP cyntaf yn y wlad.

Mae'r GIG wedi rhoi cyfleoedd ffantastig i mi ddatblygu a dysgu a thyfu fel ymarferydd. Rwy'n gweithio i'r GIG ers 21 mlynedd ac rwy'n teimlo fy mod yn dal i ddysgu bob dydd. Mae'r rhagolygon ar gyfer fy ngyrfa yn teimlo mor gyffrous, ffres a heriol ag oedden nhw 21 mlynedd yn ôl.