

Ymunais â'r GIG fel uwch arbenigwr ar hybu iechyd yn 2009 o gefndir braidd yn anarferol, gan weithio'n fwyaf diweddar yn y BBC fel cynhyrchydd ar Radio 4.
Rwyf wastad wedi bod yn frwd ynghylch gofal iechyd a phan ddechreuais i feddwl am fy ngyrfa ym maes newyddiaduriaeth, roeddwn yn gwybod bron yn reddfol ble'r oedd fy nyfodol yn perthyn - ym maes gofal iechyd a hybu iechyd, sef ble dechreuodd fy ngyrfa.
Yn hytrach na dilyn hyn trwy'r cyfryngau neu drwy drydydd sector, cefais fy nenu at y GIG oherwydd bod ei werthoedd, ei ethos a'r holl reswm dros ei fodolaeth yn cyfateb i'm gwerthoedd a'm credoau i am waith, gyrfa a boddhad gyda swydd. Wrth weithio ar raglen ddogfen ar y BBC i gofnodi 60 mlynedd ers sefydlu'r GIG fe wnes i feddwl: "Fe hoffwn i weithio yno hefyd".
Mae gweithio i wella iechyd rhywiol pobl yn Ne Llundain yn waith anodd - dyma'r ardal lle mae HIV a heintiau eraill sy'n cael eu trosglwyddo'n rhywiol ar eu huchaf. Ond mae mwy yn perthyn i'r swydd na thriniaeth a gofal. Fel mae'r hen ddywediad yn dweud, gwell rhwystro'r clwy na'i wella, ac rwy'n mynd ati i hybu iechyd rhywiol cadarnhaol ymysg ein poblogaeth leol bob un dydd.
Rwy'n gwybod bod fy nghefndir a'm profiad yn profi bod lle i bob math o bobl a phrofiad yn y GIG.