

Bûm yn gweithio i'r GIG am 13 o flynyddoedd a gallaf ddweud â'm llaw ar fy nghalon fod pob diwrnod gwaith wedi bod yn bleser.
Fe gefais swyddi ffantastig yn y GIG gan ddechrau yn gweini brecwast yn 1996. Dechreuais ddysgu o ddifrif ar ôl symud i'm swydd gyntaf fel cynorthwy-ydd gofal iechyd ym maes gofal i'r henoed. Cwblheais NVQ 2 a 3 yn y rôl yma cyn symud ymlaen i swydd ddiddorol dros ben yn yr adran ffisiotherapi. Yma, bûm yn gweithio gyda chleifion â sglerosis ymledol, gan eu helpu gydag ymarfer corff ac ymestyn y corff yn eu cartrefi.
Ar ôl tair blynedd yn yr adran ffisiotherapi, cefais gyfle i weithio fel cynorthwy-ydd gofal iechyd mamolaeth, a chael fy secondio i brosiect oedd yn cael ei ariannu gan Cychwyn Cadarn. Roedd hon yn swydd wych, ac fe wnes i elwa'n fawr arni, ac rwy'n credu bod y menywod a'u babanod wedi elwa hefyd.
Erbyn hyn rwy'n uwch gynorthwy-ydd gofal iechyd mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Prifysgol James Cook - sef swydd rwy'n caru ei gwneud a ble'r wyf yn bwriadu aros nes byddaf yn ymddeol.
Cefais 13 blynedd werth chweil yn y GIG ac rwyf hyd yn oed wedi annog fy merch 21 mlwydd oed i ymuno â'r GIG fel cynorthwy-ydd gofal iechyd, oherwydd rwy'n gwybod y bydd hyn yn rhoi dyfodol sicr iddi hi.