

Pan fydd pobl yn gofyn i mi ble rwy'n gweithio a minnau'n dweud fy mod yn gweithio mewn ysbyty'r GIG, fe fyddan nhw bron bob amser yn dod i'r casgliad yn syth fy mod i'n feddyg, nyrs neu borthor. Eto, fel rhan o'r tîm arlwyo, rwyf finnau'n rhan hollbwysig o system y GIG.
Mae yna lu o wahanol swyddi yn y GIG ond dydyn nhw ddim yn swyddi amlwg fel meddygon neu nyrsys. Mae paratoi a gweini bwyd yn chwarae rhan enfawr yn y GIG, nid yn unig i gleifion a staff ond i berthnasau ac, mewn gwirionedd, unrhyw un sy'n cerdded trwy ddrws yr ysbyty.
Mae'r GIG yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ym maes arlwyo - o gogyddion i gynorthwywyr arlwyo. Gan weithio gyda'n gilydd fel tîm, rydyn ni'n gwneud yn siwr bod bwyd a diod y cleifion yn llawn maeth, yn flasus ac yn briodol er mwyn bodloni anghenion meddygol a diwylliannol y cleifion.
Rwy'n ddiolchgar dros ben am y cyfleoedd y mae'r GIG wedi'u rhoi i mi, ac rwy'n hoffi'r ffaith fod fy swydd yn cael effaith uniongyrchol ar gleifion a'r bobl sy'n ymweld â nhw.