Jan Jayatilake: Rheolwr Gwasanaeth i Gleifion Allanol

Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Mayday

Jan Jayatilake: Rheolwr Gwasanaeth i Gleifion Allanol

Ymunais â'r GIG bum mlynedd yn ôl, ar ôl gweithio cyn hynny yn y sector preifat yn y maes gwerthu. Roedd gen i wastad uchelgais ac angerdd ynghylch gweithio ym maes gofal iechyd ac yn 2004 fe wnes i fentro. Dydw i ddim wedi edrych yn ôl, er gwaethaf y rhwystrau oedd yn fy wynebu ambell dro.

Er bod ymuno â'r GIG yn newid mawr i mi, gwelais fod sgiliau'r staff o fewn y gwasanaeth iechyd yn ardderchog ac amrywiol. Hefyd, sylwais fod sgiliau pobl o'r sector preifat, fel fi, yn herio systemau a phrosesau sy'n bodoli eisoes, gan foderneiddio'r diwylliant.

Mae'r GIG yn gymhleth a ddim ar gyfer y gwangalon, ond mae'r manteision yn aruthrol. Rwy'n cael boddhad mawr iawn o wybod bod fy rôl yn cyfrannu at drin cleifion yn y lle iawn ar yr amser iawn gyda'r canlyniadau a'r disgwyliadau iawn, ac yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Rwy'n teimlo bod pobl o'r sector preifat, fel fi, yn dod â dimensiwn gwahanol i'r GIG ac y dylid eu hannog i ymuno er mwyn ategu'r timau presennol a chyflwyno cydbwysedd. Nid yw'n hawdd bob tro ond mae'n werth chweil.