

Rwy'n falch o fod yn weithiwr mor arwyddocaol, sylfaenol ac allweddol yn y GIG yn rhinwedd fy swydd fel cynorthwy-ydd gofal iechyd. Rwy'n cefnogi a gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys meddygon a nyrsys, sy'n rhoi gwasanaethau o ansawdd y mae cleifion a'u teuluoedd a'u cyfeillion wedi dod i'w disgwyl a'u gwerthfawrogi.
Mae fy swydd fel arweinydd tîm yn gwneud fy ngwaith hyd yn oed yn fwy amrywiol oherwydd ein bod yn cynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i roi gofal o'r radd flaenaf i amrywiaeth eang o bobl yn y gymuned leol, gan eu helpu i gael hynny o gysur â phosib tra byddant dan ein gofal ac adfer eu hiechyd a'u hannibyniaeth.
Ni waeth pa mor ymroddgar neu ymroddedig yw ein meddygon a'n nyrsys, na pha mor arbenigol yw eu diagnosis a'u barn, heb gyfraniadau hollbwysig cynorthwywyr gofal iechyd i helpu eu gwaith, y mae bron yn sicr y byddai eu swyddi yn fwy anodd ac yn sicr yn llai ymarferol.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae'r GIG yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd cyffrous a heriol i bobl sy'n barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac sy'n teimlo'n angerddol ynghylch hynny. Y mae hefyd yn rhoi gwasanaeth gwych, gan addasu'n gyson er mwyn cwrdd â heriau cynyddol a manteisio ar newid.
Rwy'n sicr y byddaf yn cael gyrfa hir, ddiddorol a gwerth chweil o fewn y GIG ac ni fyddwn yn petruso rhag annog unrhyw un rhag ymuno a bod yn rhan o gyflogwr mor nodedig.