

Rwyf wedi mynd yn ôl i nyrsio yn y GIG, ar ôl bwlch o saith mlynedd.
Gadewais fy hen swydd oherwydd salwch. Cefais ddiagnosis o niwroma acwstig, sef math o diwmor ar yr ymennydd, a chefais lawdriniaeth nerfol ym Mehefin 2000. Oherwydd hyn mae gen i nam ar fy nghlyw a bu'n rhaid i mi wynebu llawer o broblemau. Ar ôl dod ataf fy hun, wnes i ddim ailgofrestru'n syth gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth oherwydd nad oeddwn i'n meddwl y buaswn yn gallu nyrsio eto.
Ond, ddwy flynedd yn ôl roeddwn yn teimlo'n llawer cryfach a chan fy mod yn rhiant sengl erbyn hynny, fe benderfynais ddilyn cwrs dychwelyd i nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd. Er fy mod yn bryderus wrth feddwl am fynd yn ôl i nyrsio, mewn gwirionedd roedd hi'n teimlo fel petawn i erioed wedi gadael. Fe gefais gefnogaeth ardderchog gan staff y ward yn ystod fy lleoliad ac roedd gen i empathi enfawr gyda'r cleifion.
Roedd yna lawer o agweddau yn perthyn i'r rôl roedd angen i mi eu dysgu'n wahanol, ond i mi roedd yr her yn werth chweil. Llwyddais i gwblhau'r cwrs yn 2009 a dechreuais weithio fel nyrs gynorthwyol dros dro i ddechrau hyd nes i mi gael fy nghofrestriad nyrsio.
Erbyn hyn rwy'n gweithio fel nyrs gofrestredig ym maes gofal parhaus, gan ofalu am gleifion yn y gymuned. Mae'n her hollol newydd i mi oherwydd mai gweithio mewn ysbytai oeddwn i o'r blaen. Yn y diwedd fe hoffwn symud ymlaen i fod yn ddarlithydd ar nyrsio.
Wrth ddychwelyd i'r GIG fe gefais swydd rwy'n ei charu, ond hefyd rwyf wedi ailddarganfod fy angerdd dros ddysgu a'm huchelgais.