Angela Kennedy: Rheolwr Rhaglenni Gwybodaeth a Thechnoleg

Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Oncoleg Clatterbridge

Angela Kennedy

Bûm yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) am 25 mlynedd ac alla'i ddim credu bod yr amser wedi mynd mor gyflym.

Dechreuais weithio yn y GIG pan oeddwn yn 18 fel Swyddog Gwyddonol Labordy Meddygol B Iau mewn Patholeg. Rwy'n cofio ailadrodd teitl fy swydd wrth fy Nhad drosodd a throsodd er mwyn iddo gofio, oherwydd fy mod mor falch. Nid yn unig roedd gen i swydd, roedd gen i yrfa.

Rwyf wedi symud ymlaen llawer ers oeddwn yn 18 ac rwy'n dal yn falch o weithio yn y GIG. Bûm yn gweithio ym maes patholeg am 18 mlynedd ac fel uwch wyddonydd biofeddygol. Yna fe gefais gefnogaeth gan fy nghyflogwr i ddilyn cwrs astudiaethau rheoli. Yn dilyn hyn fe newidiais fy ngyrfa i faes gwybodaeth a thechnoleg. Rwyf wedi gweithio fy ffordd i fyny o fod yn rheolwr cefnogi prosiectau i fod yn rheolwr rhaglenni gwybodaeth a thechnoleg. Rwy'n dyst i'r ffaith os ydych yn gweithio'n ddigon caled y gallwch ddatblygu eich gyrfa yn y GIG.

Rwyf wrth fy modd gyda'r teimlad o gyflawni rwy'n ei gael bob dydd, gan wybod fy mod yn chwarae fy rhan wrth helpu pobl i wella. Byddwn yn annog unrhyw un i ystyried y GIG wrth ddewis gyrfa.