Cysylltu â ni

Help i Ymgeiswyr

I gael help yn gyflym, ewch i'n tudalen help ymgeisydd.

Desg Help Technegol

Os ydych yn cael unrhyw broblemau technegol wrth ddefnyddio'r wefan, rhowch wybod i'n desg help, gan ddefnyddio'r ffurflen gefnogaeth. Mae staff ar ein Desg Help rhwng 8.30yb a 6.00yh, Dydd Llun i Ddydd Gwener. Byddwn yn recordio unrhyw broblemau a godir yn ein canolfan gefnogaeth ac archwilir y rhai a godir y tu allan i'r oriau hynny cyn gynted ag y bydd modd. Ein nod yw ymateb i'r problemau hyn o fewn 30 munud yn ystod oriau gwaith.

Ymholiad Swydd

Os bydd ymholiad gennych chi yn ymwneud â swydd penodol a hysbysebwyd neu eich cais, cysylltwch â thîm Adnoddau Dynol y cyflogwyr. Rhoddir manylion cysylltu pob cyflogydd yn ein tudalen rhestr cyflogwr. Dylech gael yr holl wybodaeth angenrheidiol am wneud cais yn y dogfennau a'r dolenni atodedig i hysbyseb y swydd. (Mae'n bosibl y bydd hysbyseb y swydd yn cynnwys cysylltwr anffurfiol a all roi gwybodaeth bellach am y swydd).

Adborth

Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau cyffredinol neu awgrymiadau sydd gennych i wella'r gwasanaeth recriwtio hwn. Os bydd unrhyw awgrymiadau gennych chi, llenwch ein fffurflen adborth.

Gwybodaeth Gyffredinol ar Gyrfaoedd

Os hoffech wybod mwy am yr amrediad o yrfaoedd a dysgu mwy am natur gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ewch at ein gwybodaeth gyrfaoedd yn www.nhscareers.nhs.uk.

Straeon llwyddiant

Roedd hi mor hawdd dychwelyd i'r GIG
Fe wnes i gymhwyso fel nyrs flynyddoedd yn ôl ond yn anffodus bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'm gyrfa a'm rhif pin (cofrestriad) yn 2004 oherwydd ymrwymiadau teuluol.


Rhagor o Ddolenni