Bilingual Welsh Language Service

NHS Jobs launched a bilingual service in July 2007. The service enables jobseekers to access information in Welsh, or a combination of Welsh and English. NHS Jobs work closely with the Welsh Language Board in order to maintain a service that is easy to use.

Almost all parts of the service have been translated but there will be a few areas that will not be translated. For example, links to some English websites and documents that were originally produced for English NHS organisations will not be translated into Welsh. This is because these documents are only relevant to NHS organisations in England. All documents which are relevant to NHS Wales are available in a bilingual format on the jobseeker website.

We welcome your feedback on this service. If you think that the service could be improved, please complete the feedback form on the NHS Jobs site which can be found here.

NHS Jobs works closely with NHS Wales and the Welsh Language Board in order to continue making improvements to the site, as NHS Jobs aim to provide a first class service for people in Wales.

Gwasanaeth Cymraeg Dwyieithog

Fe lansiodd NHS Jobs wasanaeth dwyieithog ym mis Gorffennaf 2007. Trwy’r gwasanaeth hwn gall pobl sy’n chwilio am waith gael gwybodaeth yn Gymraeg, neu gyfuniad o Gymraeg a Saesneg. Mae NHS Jobs yn gweithio’n agos gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn cynnal gwasanaeth sy’n hawdd ei ddefnyddio.

Mae holl rannau’r gwasanaeth wedi cael eu cyfieithu fwy neu lai, ond fe fydd yna rai meysydd na fyddant yn cael eu trosi. Er enghraifft, ni fyddwn yn cyfieithu dolenni at rai gwefannau a dogfennau Saesneg a gafodd eu llunio’n wreiddiol ar gyfer sefydliadau’r GIG yn Lloegr. Y rheswm yw fod y dogfennau hyn yn berthnasol i sefydliadau’r GIG yn Lloegr yn unig. Mae’r holl ddogfennau sy’n berthnasol i GIG Cymru ar gael ar ffurf ddwyieithog ar y wefan chwilio am waith.

Byddwn yn falch o gael eich ymateb i’r gwasanaeth hwn. Os ydych o’r farn y gellid gwella’r gwasanaeth, a wnewch chi lenwi’r ffurflen ymateb ar safle NHS Jobs, sydd i’w chael yma.

Bydd NHS Jobs yn gweithio’n agos â GIG Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn parhau i wneud gwelliannau i’r safle, wrth i NHS Jobs geisio darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i bobl Cymru.