Ysgrifennu eich ffurflen gais

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i swydd sy'n cyfateb i'ch sgiliau chi a'r hyn rydych yn chwilio amdano, mae'n hawdd gwneud cais amdani ar lein trwy NHS Jobs. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais cyntaf, gallwch gadw eich ffurflen a dod yn ôl ati yn ddiweddarach. Yna gallwch ei defnyddio yn sail ar gyfer unrhyw geisiadau eraill - cyn belled â'ch bod yn ei haddasu bob tro i ddangos sut rydych yn bodloni manyleb y person ar gyfer y swydd rydych yn gwneud cais amdani.

Dyma ambell beth i'w gofio pan fyddwch yn llenwi eich cais cyntaf.

Casglwch yr holl wybodaeth angenrheidiol I arbed amser, bydd arnoch angen y wybodaeth ganlynol i lenwi'r ffurflen:

  • eich rhif yswiriant gwladol (os oes gennych un)
  • manylion eich trwydded waith (os yw'n berthnasol)
  • manylion eich cymwysterau (gan gynnwys dyddiadau dyfarnu)
  • eich rhif cofrestru proffesiynol / pin (gan gynnwys dyddiad dod i ben / adnewyddu) os yw'n briodol
  • manylion unrhyw gyflogwyr blaenorol (gan gynnwys dyddiadau)
  • eich gwybodaeth ategol - trowch at fanyleb y person ar gyfer y swydd wag i weld pa fath o wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi er mwyn dangos eich bod yn addas ar gyfer y swydd
  • manylion cyswllt o leiaf dau ganolwr. Dylai eich cyflogwr presennol neu'r mwyaf diweddar fod yn un canolwr. Gwnewch yn siwr eich bod wedi gofyn am eu caniatâd i ddefnyddio eu manylion ar eich cais.

Llenwi'r ffurflen

  • Efallai y bydd raid i chi ateb ambell gwestiwn rhagarweiniol cyn gallu llenwi'r ffurflen ei hun. Cofiwch ateb y rhain i gyd. Cafodd y rhain eu cynllunio i'ch helpu i weld yn gyflym a ydych yn addas ar gyfer y swydd. Unwaith y byddwch wedi'u hateb, cliciwch 'gwneud cais'.
  • Ticiwch focs y datganiad i gadarnhau eich bod wedi darllen telerau ac amodau'r safle.
  • Defnyddiwch y ddewislen sy'n ymddangos i nodi ble gwelsoch chi'r swydd wag yn gyntaf a chlicio 'anfon'.
  • Nawr fe fyddwch chi yn y ffurflen gais. Cofiwch roi'r holl wybodaeth y gofynnir amdani - a PHEIDIWCH Â DEFNYDDIO PRIFLYTHRENNAU.

Eich dewisiadau gwahanol

Unwaith y byddwch wedi dechrau neu gwblhau'r ffurflen, gallwch un ai:

  • ganslo a gadael y ffurflen unrhyw bryd, heb ei chadw
  • anfon eich cais - gwnewch yn siwr eich bod wedi llenwi'r ffurflen yn llawn a darllen drosti'n ofalus (gan gynnwys eich sillafu) cyn pwyso 'anfon'.

Unwaith y byddwch wedi anfon eich cais cyntaf, gallwch ei gadw a dod yn ôl ato rywbryd yn y dyfodol. Pan fyddwch eisiau defnyddio'r wybodaeth hon eto i wneud ceisiadau eraill, byddwch yn mynd i 'fy ngheisiadau' a chlicio ar 'parhau gyda'r ffurflen.'

Gwneud cais am swyddi eraill

Un o fanteision NHS Jobs yw: unwaith y byddwch wedi gwneud cais am un swydd, bydd eich cais yn cael ei gadw'n awtomatig yn eich cyfrif yn NHS Jobs. Yna gallwch ailddefnyddio'r ffurflen ar gyfer unrhyw swyddi eraill rydych eisiau gwneud cais amdanynt. Ond, mae'n bwysig eich bod yn addasu pob cais ar gyfer y swydd rydych yn gwneud cais amdani ar y pryd - yn enwedig y wybodaeth ategol amdanoch. Wrth wneud hyn, bydd gwell gobaith y bydd eich cais yn llwyddo.

"Mae ffurflen gais dda yn un sydd wedi'i hysgrifennu'n dda, yn ramadegol gywir ac yn fanwl. Er enghraifft, gwnewch yn siwr nad oes unrhyw fylchau yn eich hanes cyflogaeth neu eglurwch unrhyw fylchau, a gwnewch yn siwr bod tystlythyrau yn cynnwys eich cyflogwyr mwyaf diweddar. Er bod hyn yn amlwg, gwnewch yn siwr nad oes camsillafu a gofynnwch i rywun arall ddarllen trosti er mwyn cael eu barn."
Lynsey McCabe, Rheolwr Recriwtio, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd-ddwyrain Lloegr.

Ambell beth arall i'w gofio

  • Cadwch y dyddiad cau mewn cof a gwnewch gais yn fuan os gallwch.
  • Bydd rhai cyflogwyr yn tynnu swyddi gweigion oddi ar NHS Jobs cyn gynted ag y byddant wedi derbyn digon o geisiadau priodol.
  • Edrychwch ar eich e-bost yn rheolaidd i gadw golwg ar eich ceisiadau. Mae'n debygol y bydd unrhyw wahoddiad i gyfweliad neu ddiwrnodau asesu yn cael ei anfon trwy e-bost. Os na fyddwch wedi derbyn ymateb o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau, fe ddylech gymryd yn ganiataol bod eich cais wedi methu - a gallwch ganolbwyntio ar wneud cais am swyddi eraill.

Efallai yr hoffech ddarllen ein herthyglau ar 'Gwneud ceisiadau llwyddiannus' a 'Datblygu cynllun gyrfa'.