Ceisiadau meddygol llwyddiannus

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i swydd feddygol sy'n cyfateb i'ch sgiliau a'r hyn rydych yn chwilio amdano, mae'n hawdd gwneud cais ar lein amdano trwy NHS Jobs. Boed yn swydd locwm, swydd meddyg arbenigol, neu'n swydd ymgynghorol, byddwch eisiau gwneud cais sy'n eich cyflwyno chi yn y ffordd orau bosib. Dyma ambell beth i'w gofio wrth wneud cais meddygol.

Cyn dechrau

Cymerwch eich amser i ddarllen y disgrifiad swydd, manyleb y person a'r ffurflen gais yn ofalus iawn, er mwyn deall yn union beth yw'r disgwyliadau. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pam eich bod yn gwneud cais am swydd benodol a'r hyn y gallwch ei gyfrannu o ran sgiliau a phriodoleddau personol. A gwnewch yn siwr fod y pethau hynny'n hollol amlwg ar eich ffurflen.

Ydych chi'n gymwys?

Gwnewch yn siwr eich bod yn gymwys ar gyfer y swydd ac yn bodloni'r meini prawf o ran:

  • eich statws mewnfudo
  • cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) neu'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)
  • eich sgiliau iaith
  • y gofynion o ran arholiadau
  • lefel y profiad sy'n ofynnol.

Darparu tystiolaeth

Dylai pob datganiad a wnewch ar y ffurflen gael ei chefnogi â thystiolaeth i ddangos sut rydych yn bodloni manyleb y person. Casglwch ddyddiadau a theitlau unrhyw gymwysterau, cyhoeddiadau, gwaith ymchwil, archwiliadau neu gyflwyniadau sy'n berthnasol i'ch cais.

Ymdrin â chwestiynau am allu

Mae'r cwestiynau hyn yn ceisio darganfod a yw'r gallu neu'r sgiliau allweddol gennych er mwyn gwneud y swydd. Felly mae'n bwysig dod o hyd i ffordd effeithiol o gyflwyno eich atebion. Gall fod o gymorth defnyddio patrwm ar sail :

  • y sefyllfa - disgrifiwch sefyllfa neu dasg yn fyr
  • y gweithredu - eglurwch yr hyn a wnaethoch a pham, gan ddangos eich priodoleddau a'ch sgiliau allweddol
  • y canlyniad - eglurwch ganlyniad yr hyn a wnaethoch, a'r hyn y gwnaethoch ei gyflawni.

Sgiliau eraill y bydd angen i chi eu dangos

Mae'n bwysig rhoi tystiolaeth o'ch sgiliau personol, yn ogystal â'ch sgiliau clinigol. Yn y pen draw, mae angen i chi ddangos eich bod:

  • yn rhoi'r claf yn ganolog o ran gofal
  • yn drefnus ac yn gallu blaenoriaethu
  • yn gallu gweithio'n effeithiol gydag eraill
  • â sgiliau cyfathrebu da
  • yn gallu delio â phwysau a heriau.

Ambell beth arall i'w gadw mewn cof

Yn olaf, wrth gyflwyno unrhyw gais, mae'n bwysig defnyddio synnwyr cyffredin:

  • rhowch ddigon o amser i chi'ch hun lenwi a chyflwyno'r ffurflen
  • gwnewch yn siwr fod yr holl fanylion ar y ffurflen yn gywir - gan gynnwys sillafu ac atalnodi
  • atebwch bob cwestiwn mor llawn a chywir â phosib
  • anfonwch gopïau o unrhyw ddogfennau eraill y mae'r hysbyseb swydd yn gofyn amdanynt, ar yr un pryd ag y byddwch yn cyflwyno eich cais
  • cysylltwch â'ch canolwyr i sicrhau eu bod yn fodlon cefnogi eich cais
  • gwnewch yn siwr eich bod yn rhydd ar unrhyw ddiwrnodau cyfweld a nodir
  • edrychwch dros eich cais fwy nag unwaith, cyn pwyso'r botwm 'anfon'.

Efallai yr hoffech ddarllen ein herthyglau ar 'Chwilio am y swydd berffaith' a 'Datblygu cynllun gyrfa.'