Gwneud ceisiadau llwyddiannus

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i swydd yn y GIG ac eisiau gwneud cais amdani, mae'n bwysig sicrhau bod eich cais yn gwneud cyfiawnder â chi - a'i fod yn rhoi'r cyfle gorau posib i chi gael cyfweliad. Mae hynny'n golygu treulio amser yn paratoi eich ffurflen gais, gan gofio'r awgrymiadau sy'n dilyn.

Pa mor addas ydych chi?

Dyna y bydd unrhyw gyflogwr yn y GIG yn ei ystyried yn y bôn. Fe fyddan nhw'n barnu pa mor dda y mae eich cais yn cyfateb â 'manyleb y person' ar gyfer y swydd. Yr ymgeiswyr sy'n cyfateb orau i fanyleb y person fydd y rhai a fydd yn mynd ar y rhestr fer i gael cyfweliad.

Felly, er mwyn bod â'r cyfle gorau i gael cyfweliad, fe ddylech chi ganolbwyntio ar hyn. Sut mae eich sgiliau a'ch profiad, sy'n amlwg wrth ddigrifio eich swyddi blaenorol, yn cyfateb i ofynion y swydd? Beth am eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau - sut maen nhw'n cyfateb i ofynion y swydd?

Nodwch hyn yn glir iawn yn eich cais - a pheidiwch byth â chyflwyno'r un ffurflen ddwywaith. Dylech ei haddasu bob amser i ddangos sut rydych yn bodloni manyleb y person ar gyfer y swydd benodol rydych yn ymgeisio amdani.

"Am beth fydda i'n chwilio mewn ffurflen gais? Gwybodaeth gryno, glir, wedi'i chyflwyno'n dda - a datganiad personol diddorol. I mi, dyna sy'n gwneud i gais sefyll allan."
John Bottomley, Rheolwr Recriwtio a Buddion Staff, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG South Tees

Llenwch bob rhan o'r ffurflen

Darllenwch y cyfarwyddiadau yn ofalus iawn a chofiwch lenwi'r holl adrannau yn y ffurflen gais. Bydd y wybodaeth a rowch yn yr adran 'cais am gyflogaeth' yn cael ei defnyddio i benderfynu a ddylech gael eich rhoi ar restr fer am gyfweliad. Ni fydd yr adrannau 'gwybodaeth bersonol' a 'gwybodaeth fonitro' yn cael eu defnyddio ar gyfer llunio rhestr fer, ond byddant yn cael eu cadw am resymau gweinyddol.

Cefnogwch y cyfan gyda gwybodaeth ategol dda

Mae'r adran 'gwybodaeth ategol' yn gyfle i chi eich gwerthu eich hun, mewn gwirionedd - felly cofiwch ei defnyddio er mantais. Gallwch gynnwys unrhyw wybodaeth fan hyn nad ydych wedi'i defnyddio yn rhywle arall ar y ffurflen, sy'n ategu sut a pham y byddech chi'n addas ar gyfer y swydd. Mae hyn yn golygu argyhoeddi'r recriwtiwr bod gennych chi sgiliau, gwybodaeth a phrofiad angenrheidiol - ac y dylen nhw eich gwahodd am gyfweliad.

Gallwch gynnwys, ymysg pethau eraill, rhagor o fanylion am:

  • eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau
  • eich sgiliau, gwybodaeth neu brofiad sy'n berthnasol i'r swydd
  • bylchau amlwg ym mhroffil eich gyrfa
  • unrhyw waith gwirfoddol rydych wedi'i wneud
  • eich profiad o waith ymchwil
  • cyhoeddiadau neu gyflwyniadau
  • gofal clinigol neu archwiliad clinigol.

"Mae cais gyda phob adran wedi'i llenwi yn sefyll allan bob amser, oherwydd yn aml iawn fydd pobl ddim yn gwneud hynny. Gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi'r cyfle gorau i chi'ch hun i gael ar y rhestr fer trwy sicrhau eich bod wedi llenwi pob adran."
Lynsey McCabe, Rheolwr Recriwtio, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd-ddwyrain Lloegr.

Cofiwch, mae llawer o wybodaeth am y gwahanol swyddi sydd yn y GIG ar wefan NHS Careers - gan gynnwys pa sgiliau a phriodoleddau sydd eu hangen ar gyfer pob swydd ac astudiaethau achos i roi syniad i chi sut brofiad fyddai gweithio mewn swydd debyg i'r un rydych yn ymgeisio amdani. Efallai y byddai'n ddefnyddiol troi at y wybodaeth ar NHS Careers wrth lenwi eich ffurflen, er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn tynnu sylw at y pethau cywir - ac yn dangos yn glir iawn pam eich bod chi'n addas ar gyfer y swydd.