Chwilio am y swydd berffaith

Mae yna tua 350 gyrfa mewn dros 70 proffesiwn gwahanol ar gael trwy'r GIG - a bydd tuag 20,000 o swyddi gweigion yn ymddangos ar NHS Jobs bob mis. Felly sut mae mynd ati i ddod o hyd i'r swydd sy'n addas i chi? Os ydych yn gwybod am beth rydych yn chwilio, ac yn manteisio i'r eithaf ar y ffyrdd o chwilio sydd ar gael, gallwch ddod o hyd i'r swyddi perthnasol yn gyflym - a gwneud cais amdanyn nhw'n hawdd.

Chwilio manwl

Mae'r dewisiadau Swyddi trwy e-bost a chwilio cyflym yn ffordd dda o ddechrau chwilio am swydd - ond os ydych eisiau canlyniadau mwy manwl, mae chwilio manwl yn gadael i chi chwilio gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol:

Teitl swydd.
Dyma ffordd syml o ddechrau chwilio, gan edrych am eiriau yn nheitl y swydd yn unig, er y gall geiriau fel 'rheolwr' gyfateb i lawer o swyddi.
Sgiliau.
Bydd hyn yn chwilio drwy'r holl destun disgrifiadol yn yr hysbyseb swydd, a gall fod yn ffordd ddefnyddiol o chwilio'n fanylach - yn enwedig os oes gennych sgiliau penodol rydych eisiau eu defnyddio.
Lleoliad.
Chi sy'n penderfynu ar y lleoliad, ond cofiwch y gallwch chwilio o gwmpas lleoliad penodol trwy ddewis radiws o hyd at 50 milltir. I awgrymu mwy nag un lleoliad, rhowch goma rhwng y geiriau, neu beth am chwilio trwy'r rhestr o gyflogwyr i ddod o hyd i gyflogwyr lleol y GIG.
Cyflog.
Ni fydd rhai swyddi yn dangos cyflog, er y gall gwybodaeth ar wefan NHS Careers roi syniad i chi o'r hyn y gallech ei ddisgwyl ar gyfer swydd benodol.
Math o swydd.
Manylion fel swydd barhaol, cyfnod sefydlog neu dros dro fydd yn y fan hyn. Mae'n ymwneud llai gyda'r math o waith dan sylw, a mwy am y trefniadau cytundebol sy'n cael eu cynnig.
Grŵp staff.
Dyma ffordd syml o wneud yn siwr eich bod yn chwilio yn y maes gwaith cywir, fel 'bydwreigiaeth' neu 'deintyddol'.

Mae'r ddewislen sy'n ymddangos wrth ochr rhai o'r penawdau hyn yn rhoi cyfle i chi ddewis o'r rhestr sydd ar gael.

Chwilio am gyflogwr neu Ymddiriedolaeth benodol

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch eisiau chwilio am swyddi sydd ar gael gydag un cyflogwr neu Ymddiriedolaeth benodol. Os ewch i'r rhestr gyflogwyr, mae'n agor rhestr o'r holl gyflogwyr, un ai yn nhrefn yr wyddor neu yn ôl rhanbarth neu 'awdurdod iechyd strategol'. Dewiswch eich rhanbarth i weld rhestr o gyflogwyr, a chlicio ar 'gweld swyddi'. Cofiwch, gallwch nodi enw cyflogwr hefyd wrth chwilio'n fanwl.

Gallwch chwilio'n fanylach nawr hefyd gan ddefnyddio'r dewisiadau 'Mireinio eich chwilio' ar ochr dde'r dudalen ganlyniadau. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis mwy o allweddeiriau, diffinio neu fireinio ystod cyflog neu leoliadau, er mwyn helpu i ddod o hyd i'r hyn sy'n cyfateb agosaf i'r swydd rydych yn chwilio amdani.

Awgrymiadau eraill ar gyfer chwilio

  • Dychmygwch fod 'ac' anweledig rhwng y gwahanol focsys chwilio i gyd - felly dim ond canlyniadau sy'n ateb yr holl feini prawf rydych yn eu rhoi fydd yn ymddangos.
  • Gallwch roi coma rhwng allweddeiriau. Mae coma yn gweithio fel 'neu'.
  • Er mwyn chwilio am union ymadrodd, rhowch "ddyfynodau" o amgylch y geiriau allweddol.
  • Os nad ydych eisiau bod yn rhy benodol, mae'n iawn gadael bocs yn wag. Peidiwch â drysu'r chwilio trwy ysgrifennu 'dim ots gennyf' neu 'amherthnasol' neu 'N/A'.

Cofiwch, os ydych eisiau cael gwybod mwy am y gwahanol swyddi sydd ar gael yn y GIG, a pha fath o sgiliau a phriodoleddau sydd eu hangen i'w gwneud, ewch i wefan NHS Careers.