Gwneud cais o dramor

Y GIG yw'r cyflogwr unigol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gan gyflogi dros filiwn o bobl, sef pump y cant o boblogaeth weithio y Deyrnas Unedig. Mae ein gweithlu yn arbennig o amrywiol ac amlddiwylliannol - yn union fel ein cleifion. Ac yn aml byddwn yn edrych y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig ac Ewrop i ddenu'r doniau gorau. Rydym yn rhoi croeso arbennig i staff gofal iechyd â chymwysterau proffesiynol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Dyma'r prif bethau i fod yn ymwybodol ohonynt os ydych yn gwneud cais am swydd gyda'r GIG o dramor.

Edrychwch ar fanyleb y person

Mae 'manyleb y person' i'w chael ar gyfer pob swydd sy'n cael ei hysbysebu ar y safle. Mae'n disgrifio'r gofynion sylfaenol er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd. Gwnewch yn siwr fod y profiad a'r cymwysterau perthnasol gennych cyn gwneud cais am swydd. Dim ond ymgeiswyr sy'n dangos yn glir yn eu ffurflen gais eu bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd fydd yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad. Ar gyfer swyddi poblogaidd iawn, mae'n bosib na fydd cyflogwyr ond yn ystyried yr ymgeiswyr hynny sydd hefyd yn bodloni'r meini prawf dymunol ar gyfer manyleb y person.

Recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn rhyngwladol

Bydd NHS Jobs yn dilyn y côd ymarfer ar gyfer recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn rhyngwladol. Mae hwn yn hyrwyddo'r safonau gorau posib wrth recriwtio'n rhyngwladol, gan beidio â chefnogi unrhyw arferion amhriodol a allai niweidio systemau gofal iechyd gwledydd eraill na buddiannau'r rhai sy'n gwneud cais am swyddi. Darganfod mwy [dolen i http://www.dh.gov.uk/en/Publicationsandstatistics/Publications/PublicationsPolicyAndGuidance/DH_4097730

Cofrestriad proffesiynol

Os ydych yn gwneud cais am swydd sy'n gofyn am gofestriad proffesiynol, bydd angen i chi gofrestru gyda'r corff rheoleiddio priodol. Os ydych wedi'ch cofrestru yn eich mamwlad, ond heb gofrestru yn y Deyrnas Unedig, gall rhai cyflogwyr yn y GIG eich helpu gyda hyn. Mae manylion manwl am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i'w cael ar wefan NHS Careers

Hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig

Ym mis Chwefror 2008 fe gyflwynwyd system newydd ar sail pwyntiau er mwyn asesu ceisiadau mewnfudo i'r Deyrnas Unedig. Mae'r system hon yn symleiddio llwybrau at gyflogaeth ac addysg yn y Deyrnas Unedig i bum haen. Os ydych yn dod o'r tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), mae angen i chi ennill pwyntiau er mwyn bod yn gymwys ar gyfer haen benodol cyn y gallwch wneud cais i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae nifer y pwyntiau sy'n angenrheidiol yn amrywio ar gyfer pob haen ond mae'n adlewyrchu cymwysterau, profiad, oed, enillion blaenorol a gallu ieithyddol yr ymgeiswyr.

Haen 1: gweithwyr tra medrus. Mae'r haen hon yn caniatáu i ymfudwyr tra medrus wneud cais am ganiatâd i weithio neu hyfforddi yn y Deyrnas Unedig heb gael cynnig swydd.

Haen 2: gweithwyr medrus. Mae'r categori hwn yn galluogi sefydliadau'r GIG i recriwtio unigolion o'r tu allan i'r AEE i lenwi swyddi gweigion na ellir eu llenwi gan weithwyr o Brydain neu o'r AEE. Os oes gennych drwydded waith ar hyn o bryd, gallwch barhau yn eich swydd neu newid swyddi ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf llawn o ran cymhwyster ar gyfer dilyn y llwybr mynediad hwn.

Haen 3: gweithwyr â sgiliau isel. Nid yw'r categori hwn ar gael ar hyn o bryd fel llwybr mynediad i'r Deyrnas Unedig.

Haen 4: myfyrwyr. Bydd darparwyr addysg y Deyrnas Unedig yn gweithredu fel noddwyr i fyfyrwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu'r AEE. Os cewch eich derbyn i astudio, byddwch yn cael Cadarnhad Derbyn ar gyfer Astudiaethau (CAS). Bydd ar bob myfyriwr angen fisa i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn caniatáu i chi weithio'n rhan amser yn ystod y tymor ac yn llawn amser yn ystod gwyliau.

Haen 5: gweithwyr dros dro a mudoledd ieuenctid. Mae'r rhan ar gyfer gweithwyr dros dro yn haen 5 yn caniatáu i sefydliadau'r GIG eich cyflogi os ydych yn y Deyrnas Unedig o'r tu allan i'r AEE am hyd at 24 mis fel rhan o raglen gyfnewid wedi'i hawdurdodi gan y llywodraeth. Mae'r rhan mudoledd ieuenctid yn cymryd lle'r fisa ar gyfer ymwelwyr sy'n gweithio. Os yw eich gwlad yn rhan o Gynllun Mudoledd Ieuenctid (YMS), gallant weithredu fel noddwyr i roi Tystysgrif Nawdd i chi.

Darganfod mwy.

Cynllun peilot i recriwtio meddygon rhyngwladol

Mae newidiadau i'r rheolau mewnfudo yn 2008 yn golygu nad yw llawer o raddedigion meddygol rhyngwladol (IMG) yn gallu manteisio ar swyddi hyfforddiant meddygol yn y GIG ar sail eu hawl i weithio dan Haen 1 (Cyffredinol) na'u statws mewnfudo HSMP presennol.

Fodd bynnag, mae rhwydd hynt i IMG a meddygon o'r tu allan i'r AEE wneud cais a gweithio mewn unrhyw swydd, gan gynnwys swyddi hyfforddiant, a allai fod yn gymwys am nawdd dan Haen 2 system fewnfudo ar sail pwyntiau y Swyddfa Gartref.

Mae NHS Jobs yn gweithio gyda chyflogwyr yn y GIG ledled Cymru a Lloegr mewn cynllun peilot i helpu i hyrwyddo cyfleoedd addas i feddygon o'r tu allan i'r AEE a allai fod yn gymwys ar gyfer nawdd dan reolau Haen 2.

Gallwch ddod o hyd i'r swyddi hyn trwy:

  • chwilio am hysbysebion swyddi sy'n cynnwys y testun canlynol: 'Gallai'r swydd hon fod yn addas ar gyfer ymgeiswyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu'r tu allan i'r EEA sy'n dymuno gwneud cais am nawdd Haen 2 y Swyddfa Gartref'
  • chwilio trwy'r rhestr lawn o gyfleoedd presennol
  • cynnwys y geiriau allweddol: "sy'n dymuno gwneud cais am nawdd Haen 2 y Swyddfa Gartref", gan gynnwys dyfynodau, yn y bocs chwilio cyflym ar y dudalen hafan neu'r bocs sgiliau wrth chwilio'n fanwl neu yn y gosodiadau swyddi-trwy-ebost.

Ar wefan NHS Careers mae llawer mwy o wybodaeth ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o dramor sydd eisiau gweithio yn y GIG.