NHS Jobs yw'r gwasanaeth recriwtio ar lein un pwrpas ar gyfer y GIG. Mae mwyafrif helaeth swyddi gweigion y GIG yn cael eu hysbysebu ar y wefan - tuag 20,000 bob mis. Felly os ydych yn chwilio am yrfa yn y GIG - neu os ydych eisoes yn gweithio o'i fewn ond yn ystyried newid swydd - dylech droi at y safle hwn yn gyntaf.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch chwilio a gwneud cais ar lein am swyddi yn y GIG yn gyflym, a manteisio ar lawer o nodweddion eraill, gan gynnwys 'swyddi trwy e-bost' sy'n golygu y byddwn yn anfon e-bost atoch yn awtomatig gydag unrhyw swyddi gweigion y gallech fod â diddordeb ynddynt. Gallwch gadw manylion swyddi a cheisiadau - a chadw golwg ar eich cynnydd gydag unrhyw swyddi gweigion ar lein.
"NHS Jobs yw'r ffordd gyflymaf ar lein o weld y swyddi gweigion diweddaraf o fewn y gwasanaeth iechyd. Gyda'i gysylltiadau agos â NHS Careers, mae'r holl wybodaeth angenrheidiol ynghylch gweithio i'r GIG ar gael ar flaenau eich bysedd, o lwybrau gyrfa at fanylion cyflogwyr, o chwilio am swyddi newydd at edrych ar gynnydd eich cais."
Amanda Berzins, Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol, Ysbyty Great Ormond Street
I sefydlu eich cyfrif, cliciwch ar fotwm Cofrestru eich manylion. Llenwch eich enw, cyfeiriad ac e-bost; dewiswch gyfrinair sy'n hawdd ei gofio, ond sy'n anodd i eraill ei ddyfalu; a chliciwch ar 'creu' i sefydlu eich cyfrif. Pryd bynnag y byddwch yn dod yn ôl i'r safle, byddwch yn mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost ar gyfer eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
Os ydych eisoes yn gwybod am ba fath o swydd rydych yn chwilio o fewn y GIG, gallwch ddechrau chwilio am swyddi gweigion ar unwaith. Gallwch wneud hynny mewn tair prif ffordd:
Cofiwch, os ydych eisiau cael gwybod mwy am y llu o wahanol swyddi sydd ar gael o fewn y GIG - gan gynnwys gwybodaeth fel tâl a buddion, a'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer swyddi penodol - mae digonedd o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan NHS Careers.
Bydd swyddi gweigion newydd yn cael eu hychwanegu at NHS Jobs drwy'r adeg. Fe allwch chi fod ymysg y cyntaf i'w gweld trwy drefnu i gael Swyddi trwy e-bost. Yn syml iawn, dewiswch eich meini prawf chwilio (yn ôl teitl swydd, allweddeiriau, cyflog a lleoliad) a byddwn yn e-bostio manylion swyddi gweigion pryd bynnag y byddant yn ymddangos ar y safle.
Gallwn roi gwybod i chi trwy RSS hefyd pan fydd swyddi gweigion newydd yn cael eu hychwanegu, petai'n well gennych.
Gobeithio erbyn hyn fod gennych syniad eithaf da o sut mae NHS Jobs yn gweithio. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, edrychwch ar y safle a dod yn gyfarwydd â gwahanol rannau ohono. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i ddefnyddio NHS Jobs, mae'n eithaf tebygol y bydd yr ateb i'w gael yn yr adran cwestiynau cyffredin. Hefyd, gallwch anfon e-bost at ein desg gymorth unrhyw adeg gydag unrhyw gwestiynau technegol, a chofiwch, mae digonedd o wybodaeth ychwanegol am y llwybrau gyrfa o fewn y GIG i'w chael ar wefan NHS Careers.
Efallai yr hoffech ddarllen ein herthyglau ar 'Gwneud ceisiadau llwyddiannus' a 'Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel'.
