Dim gwahaniaeth faint o waith paratoi y byddwch yn ei wneud ymlaen llaw, mae mynd i gyfweliad fel arfer ychydig yn frawychus. Ond peidiwch â gwneud y camgymeriad o feddwl bod y sefyllfa allan o'ch dwylo chi ar ôl cerdded i mewn i'r ystafell. Y mae nifer o dechnegau y gallwch eu defnyddio o hyd i sicrhau bod y panel yn eich gweld ar eich gorau.
Nid mater o siarad yn bwyllog ac eglur yn unig yw hyn - er bod y ddau beth yn bwysig iawn. Ond mae'n golygu hefyd eich bod yn rhoi gwybod i'r panel pa bwynt rydych yn ei wneud, a pham. Er enghraifft, os byddwch yn adrodd stori am broblem benodol mewn swydd flaenorol, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd pobl yn gallu deall pam fod hyn yn berthnasol. Yn hytrach, ewch ati'n fwriadol i gysylltu'r hanes gyda gofynion y swydd.
Un ffordd o sicrhau eich bod yn cadw at y pwynt yw ceisio rhoi terfyn amser bras ar eich atebion. Er y bydd yna eithriadau bob amser, mae'n annhebygol y bydd yn rhaid i'ch atebion fod dros ddau funud o hyd. Hefyd, os gallwch lunio atebion gyda thri neu bedwar prif bwynt, byddwch yn gwneud bywyd yn llawer haws i'r panel cyfweld - a fydd yn newyddion da i chi.
Wrth gwrs, does neb eisiau ymddangos yn orhyderus, ond y gwirionedd yw fod y cyfweliad hwn amdanoch chi, a dylai eich atebion adlewyrchu hynny. Felly dylech osgoi dweud 'ni' pan ydych yn golygu 'fi'.
Mae'n bwysig fod eich pwyntiau yn cynnwys enghreifftiau o'ch profiad eich hun, yn bennaf oherwydd bod hyn yn dangos eich bod yn gallu dysgu a datblygu. Y mae hefyd yn eich helpu i osgoi gwneud datganiadau amwys, oherwydd fydd hynny byth yn gwneud argraff dda ar baneli cyfweld.
Fodd bynnag, nid yw siarad am eich profiadau personol yn wahoddiad i ddweud beth bynnag sy'n dod i'ch meddwl. Gwnewch beth bynnag allwch chi i seilio eich atebion ar brofiadau unigol, ond gwyliwch rhag llithro i adrodd hanesion amherthnasol.
Nid yw pob cyfweliad yr un fath, ac mae'n bosib y bydd rhywbeth yn eich synnu chi, fel y cwestiynau eu hunain, tôn yr holwyr, neu hyd yn oed y trefniadau eistedd. Yn gyffredinol, ceisiwch gofio ei bod hi'n bosib na fydd pethau'n mynd yn union yn ôl y disgwyl. Ond gall hyn fod yn beth da - byddwch yn cael cyfle i ddangos eich gallu i feddwl a gweithredu ar eich traed.
Cofiwch, rhan bwysicaf unrhyw gyfweliad yw eich gwerthu eich hun, a dangos pam eich bod chi'n iawn ar gyfer y swydd. Ond ceisiwch ddangos y 'chi go iawn' os gallwch, nid rhywun sy'n gallu dysgu atebion i gwestiynau cyfweliad fel parot. Bydd cael y swydd yn dibynnu cymaint ar eich personoliaeth a'ch brwdfrydedd ag y bydd ar eich sgiliau a'ch profiad, a'r atebion a rowch. Pob hwyl.
Efallai yr hoffech ddarllen ein herthyglau ar 'Cwestiynau anodd mewn cyfweliad' a 'Llongyfarchiadau ar gael cyfweliad'.
