Mae'n wych gwybod bod eich cais wedi llwyddo, a bod y cyflogwr eisiau cwrdd â chi am gyfweliad. Nawr mae angen i chi wneud yn siwr eich bod wedi paratoi cymaint â phosib ar ei gyfer - mae hynny'n golygu meddwl ymlaen llaw am rai o'r cwestiynau sy'n debygol o godi, a chael darlun clir iawn yn eich meddwl ynghylch pam eich bod chi'n addas ar gyfer y swydd.
Efallai fod hyn yn swnio'n amlwg, ond mae'n hanfodol eich bod yn gwybod cymaint â phosib am y swydd cyn y cyfweliad. Gwnewch yn siwr eich bod yn gyfarwydd iawn â manyleb y person, gan y bydd y panel cyfweld bron yn sicr yn defnyddio hyn fel canllaw wrth ofyn cwestiynau. Ac atgoffwch eich hun o'r pethau ysgrifennoch chi yn eich cais am y ffyrdd rydych yn bodloni'r gofynion penodol.
Os ydych yn gwneud cais am swydd mewn maes penodol, mae'n syniad da dod i wybod cymaint â phosib am y maes. Er enghraifft, darllenwch ar y rhyngrwyd am dargedau'r llywodraeth, datblygiadau diweddar a thrafodaethau amlwg - a meddyliwch beth yw eich barn chi am rai o'r materion hyn. Hyd yn oed os nad yw'n hollol berthnasol i ofynion y swydd o ddydd i ddydd, mae'n bwysig dangos bod gennych ddiddordeb yn y cyd-destun ehangach. Lle da i ddechrau paratoi fyddai cyfnodolion proffesiynol, gwefannau'r Coleg Brenhinol a chylchgronau fel Health Service Journal.
Mae'r un peth yn wir o ran dod o hyd i wybodaeth am yr ymddiriedolaeth y byddwch yn gweithio iddi. Ceisiwch ddarganfod beth sy'n gwneud yr ymddiriedolaeth arbennig hon yn wahanol i rai eraill, ac a fydd y gwahaniaethau hyn yn effeithio ar eich gwaith chi. Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth am wahanol ymddiriedolaethau'r GIG ar wefannau NHS Careers ac NHS Choices.
Bydd cwestiynau amdanoch chi yn codi yn ystod y cyfweliad, wrth gwrs. Meddyliwch am y rhai sydd fwyaf tebygol o godi; meddyliwch sut y gallech eu hateb a gwnewch nodyn o ambell beth. Dyma enghreifftiau i chi feddwl amdanynt:
Un ffordd dda o ymddangos yn hyderus a brwdfrydig yn ystod cyfweliad yw trwy ofyn cwestiynau. Ond, cofiwch beidio â gofyn am wybodaeth sydd eisoes wedi'i rhoi, neu sydd hyd yn oed wedi'i thrafod yn gynharach yn y cyfweliad. Y peth pwysig yw dangos eich bod wedi meddwl yn ofalus am y cais a'r cyfweliad, nid ticio bocsys ac ateb cwestiynau yn ddifeddwl yn unig.
Mae yna rai rheolau sy'n berthnasol i bron bob math o gyfweliad - ond nid yw hynny'n golygu nad ydyn nhw'n bwysig. Yn gyntaf, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod sut i gyrraedd y cyfweliad - mae'n gallu bod yn anodd gwybod eich ffordd o gwmpas ysbytai weithiau. Edrychwch faint o'r gloch mae angen i chi fod yno, a byddwch yn brydlon. Ac, wrth gwrs, gwisgwch yn briodol, gan sicrhau eich bod yn cyfleu'r negeseuon cywir am eich hyder, eich hunanddisgyblaeth a'ch barn.
Pob hwyl - a chofiwch po fwyaf y byddwch wedi paratoi, y mwyaf hyderus y dylech deimlo ar y diwrnod. A'r gorau fydd eich cyfle o gael y swydd.
Efallai yr hoffech ddarllen ein herthyglau ar 'Cwestiynau anodd mewn cyfweliad' a 'Rheoli'r cyfweliad'.
