Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Pan fyddwch yn defnyddio NHS Jobs, rydym eisiau i chi fod yn hyderus fod y wybodaeth bersonol a roddwch yn ddiogel a sicr. Byddwn yn trin diogelwch gwybodaeth ar lein yn ddifrifol iawn, a byddwn yn defnyddio'r dechnoleg a'r arferion diweddaraf i warchod rhag colli, camddefnyddio a newid y wybodaeth a roddwch. Fodd bynnag, mae gennych chithau ran i'w chwarae hefyd wrth ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ar y rhyngrwyd.

Rhai o'r ffyrdd y byddwn yn cadw gwybodaeth yn ddiogel

  • Byddwn yn defnyddio'r dechnoleg ddiogelwch ddiweddaraf yn ôl safonau'r diwydiant. Mae hyn yn cynnwys llawer o wahanol haenau o ddiogelwch technoleg gwybodaeth, gan gynnwys waliau tân a meddalwedd gwrthfeirysau.
  • Mae'n rhaid i chi roi enw defnyddiwr a chyfrinair wrth fewngofnodi er mwyn i ni sicrhau ein bod yn delio â chi. Ar ôl 60 munud o segurdod, byddwn yn gorffen eich sesiwn yn awtomatig. Felly mae'n bwysig eich bod yn cadw eich gwaith yn rheolaidd, yn enwedig pan fyddwch yn llenwi ffurflen gais.
  • Mae ein safle yn defnyddio cwcis i gadw cofnod o'ch chwiliadau ar unrhyw ymweliad unigol. Bydd y cwcis hyn yn dod i ben ar ôl i chi adael y safle, ac nid ydynt yn gadael i unrhyw un gael mynediad at eich gwybodaeth gyfrinachol.

Diogelwch ar lein - yr hyn y gallwch chi ei wneud

Dyma ambell beth syml y gallwch ei wneud i ddiogelu'r wybodaeth ar eich cyfrifiadur a'r wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu ar lein, ar NHS Jobs a hefyd ar wefannau eraill.

Defnyddio a diweddaru eich meddalwedd gwrthfeirysau yn rheolaidd

Efallai eich bod yn defnyddio meddalwedd gwrthfeirysau eisoes ond er mwyn bod yn effeithiol mae angen diweddaru'r meddalwedd yn rheolaidd.

Cadwch gyfrineiriau yn breifat, a pheidiwch â defnyddio'r un un ar gyfer popeth

Mae'n bwysig peidio â rhannu eich enw defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw fanylion personol unigryw eraill gydag unrhyw un arall. Mae'n hawdd cael yr un cyfrinair ar gyfer popeth, ond mae hyn yn peryglu eich diogelwch. Rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn cael cyfrinair unigryw ar gyfer unrhyw wasanaethau rydych yn eu defnyddio sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol.

Wrth ddewis cyfrinair:

  • ceisiwch beidio â defnyddio cyfrineiriau sy'n hawdd eu dyfalu, fel enwau plant, enwau anifeiliaid anwes, dyddiadau pen-blwydd neu rifau ffôn
  • peidiwch byth â'i ysgrifennu - os bydd angen ei gofnodi, defnyddiwch system gâd, er enghraifft trwy drawsnodi rhai o'r llythrennau
  • gallwch wella diogelwch trwy ddefnyddio rhagor o gymeriadau, rhifau neu gymeriadau arbennig yn eich cyfrinair. Mae 'dangosydd cryfder cyfrinair' yn gallu eich helpu i ddewis cyfrinair mwy diogel ar gyfer eich cyfrif
  • dylech deipio eich cyfrinair heb gael eich gweld
  • ystyriwch newid eich cyfrinair yn rheolaidd, yn enwedig os ydych yn amau bod rhywun yn ei wybod.

Allgofnodi

Cofiwch orffen eich sesiwn a chau eich porwr rhyngrwyd pan fyddwch wedi gorffen gweithio ar lein - yn enwedig os ydych yn rhannu cyfrifiadur.

Awgrymiadau eraill o ran diogelwch

  • Dylech osgoi rhannu ffeiliau ar eich cyfrifiadur. Bydd hyn yn digwydd pan fyddwch yn gallu cael mynediad at ffeiliau pobl eraill, fel cerddoriaeth, a hwythau'n gallu cael mynediad at eich ffeiliau chithau. Mae gwneud hyn yn gallu caniatáu i feirysau, a meddalwedd niweidiol arall, heintio eich cyfrifiadur.
  • Datgysylltwch y dewis 'rhannu ffeiliau ac argraffydd' ar eich cyfrifiadur i helpu i atal mynediad heb awdurdod.
  • Byddwch yn wyliadwrus wrth agor unrhyw negeseuon e-bost annisgwyl gydag atodiadau.

Trwy ddilyn yr awgrymiadau syml hyn, gallwch fod yn llawer mwy diogel ar lein - nid yn unig wrth ddefnyddio NHS Jobs, ond ar draws y rhyngrwyd yn gyffredinol.