Gwneud argraff ar y recriwtiwr

Fel rhan o'r broses ddewis ar gyfer swydd yn y GIG, efallai y bydd gofyn i chi fynd i ganolfan asesu. Bydd hyn yn digwydd un ai fel rhan o'r broses ddewis ddechreuol, neu ar ôl y cyfweliadau cyntaf a chyn dewis yn derfynol. Felly beth allwch chi ei ddisgwyl o brofiad o'r fath ac, yn bwysicach, sut gallwch chi baratoi ar ei gyfer?

Yr hyn y mae canolfannau asesu yn ceisio ei wneud

Yn gyffredinol mae canolfannau asesu yn para diwrnod neu ddau ac yn cynnwys cyfres o ymarferiadau asesu, fel cyfweliadau grŵp, profion seicometrig, chwarae rôl a phaneli cyfweld. Bwriad yr ymarferion hyn yw eich profi, i weld sut rydych yn perfformio rhai tasgau, ac a yw'r sgiliau angenrheidiol gennych i wneud y gwaith. Fel arfer bydd y profion yn cael eu cynnal ar safle'r cyflogwr neu mewn canolfan gynadledda. Mae llawer o gyflogwyr o'r farn mai dyma'r ffordd decaf o ddewis staff. Y rheswm yw fod nifer o wahanol ddewiswyr yn cael eich gweld dros gyfnod hwy o amser a chael cyfle i weld yr hyn y gallwch ei wneud, yn hytrach na'r hyn a ddywedwch y gallwch ei wneud, mewn amryw o sefyllfaoedd.

Rhagor am y gwahanol elfennau

Mae canolfannau asesu yn gallu amrywio o ran eu cynllun, ond yn aml maent yn cynnwys rhai o'r elfennau canlynol:

ymarferiadau grŵp
- mae'r rhain yn ceisio rhoi prawf ar eich gallu i weithio fel rhan o dîm, a gweld a ydych yn fwy o arweinydd ynteu'n un sy'n dilyn. Byddwch yn cael tasg gr?p i'w chyflawni o fewn amser penodol, a gall y dasg hon annog cystadleuaeth neu gydweithrediad
chwarae rôl
- sut byddech chi'n delio â chlaf anhapus, neu gydweithiwr anodd, petaech yn gwneud y swydd rydych yn ymgeisio amdani? Fel arfer bydd hyn yn ceisio gweld sut byddwch yn ymateb mewn sefyllfa chwithig neu sy'n llawn tyndra - a dangos sut gallwch feddwl dan bwysau
cyflwyniadau
- efallai y bydd angen i chi wneud cyflwyniad byr. Ychydig ohonom sy'n mwynhau siarad yn gyhoeddus ond mae'n sgil ddefnyddiol y gallwch ei dysgu. Gall fod yn ddefnyddiol gwneud nodiadau byr i droi atynt yn ystod y sgwrs, a dylech gael digon o amser i baratoi.

Yn ogystal â'r profion eu hunain, fel arfer bydd y ganolfan asesu hefyd yn cynnwys:

sesiynau gwybodaeth
- ble byddwch yn dysgu mwy am y GIG a'r swyddi sydd ar gael. Gwrandewch yn ofalus, gan ei bod hi'n debygol y bydd y wybodaeth yn y sesiynau hyn yn fwy diweddar nag unrhyw waith ymchwil y gallech fod wedi'i wneud cynt.
digwyddiadau cymdeithasol
- efallai y bydd yna elfen gymdeithasol hefyd, ble byddwch yn cael cwrdd â'r ymgeiswyr eraill a'r dewiswyr, a graddedigion diweddar ac uwch reolwyr o bosib. Er y gall hyn ymddangos yn rhan fwy anffurfiol o'r diwrnod, fe ddylech barhau i ymddwyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n dda arnoch chi. Mae hynny'n golygu peidio ag yfed gormod na bod yn rhy benderfynol eich barn.

Sut i baratoi

Meddyliwch am y sgiliau angenrheidiol ym 'manyleb y person' ar gyfer y swydd - neu a drafodwyd yn y cyfweliad cyntaf, os cawsoch un eisoes. Bydd pob prawf, ymarferiad a chyfweliad yn eich cymharu â'r meini prawf hynny, ac yn cael eu cynllunio i fesur a yw'r sgiliau a'r ymddygiad angenrheidiol gennych i wneud y swydd. Dylech wisgo fel petaech yn mynd i gyfweliad a chyrraedd mewn da bryd.

"Cyn mynd i ganolfan asesu y GIG, fy nghyngor fyddai ceisio dod i ddeall rhywfaint am hyd a lled y gwaith a'r materion sy'n effeithio ar y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd. Bydd hyn o gymorth i chi baratoi, trwy roi cipolwg i chi ar y diwylliant ac ymwybyddiaeth o'r pwysau a'r penderfyniadau sy'n effeithio ar y gwasanaeth." Alan Simmons, Ymgynghorydd NHS Careers

Mewn gwirionedd mae canolfan asesu yn gyfle i'r cyflogwr ddod i wybod mwy amdanoch chi a'r hyn y gallwch ei wneud. Y mae'n gyfle hefyd i chi gael gwybod mwy am y GIG ac a ydych yn addas ar gyfer y swydd. Felly ymlaciwch, gwnewch eich gorau, mwynhewch a dysgwch o'r profiad.

Efallai yr hoffech ddarllen ein herthyglau ar 'Rheoli'r cyfweliad' a 'Datblygu cynllun gyrfa'.