Datblygu cynllun gyrfa

Mae mynd ati i lunio cynllun gyrfa yn ffordd dda o gael syniad am gyfeiriad posib, a bydd o gymorth hefyd i roi mwy o ddewisiadau i chi. Ac nid wrth chwilio am waith yn unig, ond drwy gydol eich gyrfa. Dyma ein canllaw deg pwynt, gam wrth gam, sy'n rhoi awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu cynllun gyrfa. Y syniad yw sicrhau eich bod yn manteisio i'r eithaf ar eich gwaith, ond hefyd eich bod yn gwneud cais am swyddi y mae arnoch eu heisiau, ac sy'n hollol addas i chi.

  1. Asesu eich nodau a'ch blaenoriaethau. Nid y rhai presennol yn unig, ond ble'r hoffech chi fod ymhen pum neu ddeng mlynedd. Pa newidiadau allai ddigwydd yn eich bywyd personol, a sut bydd y swydd rydych yn ei gwneud yn effeithio arnyn nhw? Pa gydbwysedd rhwng gwaith/bywyd ydych chi ei angen? Pa mor bwysig yw ffactorau fel tâl, oriau, lleoliad a bod yn fodlon gyda'ch swydd?
  2. Ysgrifennu amcanion eich gyrfa. Taith yw eich gyrfa, a rhywbeth rydych yn ei adeiladu wrth fynd trwy fywyd. Beth sydd arnoch chi ei eisiau o'ch swydd nesaf? Ydych chi'n awyddus i ddysgu rhai sgiliau penodol, neu ychwanegu at yrfa dda, neu symud i faes hollol newydd?
  3. Pa swyddi sy'n addas ar gyfer eich sgiliau. Byddwch yn onest gyda chi'ch hun. Pa rannau o'ch swydd bresennol neu swyddi blaenorol ydych chi wedi'u gwneud yn arbennig o dda? Ym mha feysydd ydych chi'n gymwys neu'n brofiadol?
  4. Gofyn am gyngor. Does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Bydd ffrindiau, teulu, cydweithwyr dibynadwy neu gynghorwyr gyrfa i gyd yn helpu. Neu beth am y rhyngrwyd i gael cyngor am yrfaoedd? Efallai y gallech fynd ar wefan NHS Careers am gyngor a syniadau.
  5. Dadansoddi eich cynllun hyd yn hyn. Yng nghamau 1-4, rydych wedi casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol amdanoch eich hun. Erbyn hyn fe ddylech fod wedi creu darlun eithaf cynhwysfawr y gallwch ei ddefnyddio i gyfateb i fanyldeb swyddi neu i'ch helpu i chwilio a gwneud ceisiadau am swyddi.
  6. Ystyried eich dewisiadau. Mae'n bryd mynd ati nawr i asesu beth allai eich helpu i fodloni eich amcanion a'ch blaenoriaethau. Ystyriwch y gyrfaoedd neu'r mathau posib o swyddi: a yw'r rheiny ar gael yn y sefydliad neu'r adran ble'r ydych yn gweithio ar hyn o bryd, neu a oes angen i chi chwilio yn rhywle arall.
  7. Ystyried unrhyw fylchau yn eich sgiliau. Efallai fod yna gymwysterau neu sgiliau angenrheidiol a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i'r yrfa rydych yn chwilio amdani. Beth yw'r rheiny, a sut mae eu cael nhw?
  8. Gosod nodau. Nawr rydych yn cyfuno'r wybodaeth yng nghamau 5, 6 a 7 i greu cyfres o nodau realistig i chi'ch hun. Gallai'r rhain gynnwys hyrwyddo, hyfforddiant, cymwysterau, dysgu sgiliau newydd, newid sefydliad, neu hyd yn oed newid gyrfa. Defnyddiwch y nodau hyn i gadw golwg ar sut rydych yn gwneud, ac fe fyddwch yn teimlo eich bod yn cyflawni pethau wrth i chi roi tic yn erbyn pob un.
  9. Cynllunio i'ch marchnata eich hun. Unwaith y byddwch wedi gosod eich nodau, bydd gennych well syniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud i'w cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys chwilio am y cyfleoedd iawn, a chreu'r CV a'r llythyrau mwyaf addas ar gyfer pob cyfle gwahanol.
  10. Ailwerthuso. Mae cynlluniau yn newid, mae blaenoriaethau yn newid. Efallai y byddwch yn gosod nodau uwch, trwy ddysgu sgiliau newydd efallai y byddwch yn newid eich nodau, neu gall cyfleoedd newydd fod ar gael i chi. Ble bynnag y bydd bywyd yn mynd â chi, newidiwch eich cynllun gyrfa i adlewyrchu hyn.

Mae rhagor o gyngor am yrfaoedd i'w gael ar wefan NHS Careers.

Efallai yr hoffech ddarllen ein herthyglau ar 'Chwilio am y swydd berffaith' ac 'Ysgrifennu eich ffurflen gais'.