Gosodiadau'r porwr - Opera
Newid gosodiadau'r porwr
Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth edrych ar ein tudalennau, bydd y rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi newid y gosodiadau er mwyn newid y ffordd y dangosir y tudalennau. Efallai y bydd hyn yn gwneud y testun yn haws ei ddarllen.
Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi:
- anwybyddu gosodiadau a nodir gan dudalen we
- newid maint y ffont
- newid arddull y ffont
- newid lliw'r ffont
- newid lliw'r cefndir
- stopio delweddau rhag lawrlwytho (fel na allwch eu gweld)
Sut i wrth-wneud gosodiadau'r ffont a lliwiau
- O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'File' a dewis 'Preferences'.
- Dewiswch 'Page style'.
- Dan y dewis 'Author mode', tynnwch y tic oddi ar y bocsys wrth ymyl 'Page style sheet' a 'Page fonts and colours'.
- Cliciwch 'OK i gau'r bocs 'Preferences'.
Sut i newid lliw'r testun a'r cefndir
- O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'File' a dewis 'Preferences'.
- Dewiswch 'Fonts and colours'.
- Nodwch y ffont yr hoffech ei newid, e.e. 'Normal' neu 'Heading 1'.
- Cliciwch fotwm 'Choose' ar y dde. Bydd hyn yn dod â bocs 'Font' ble gallwch newid y ffont a'i arddull a'i faint.
- Dewiswch y gosodiadau sy'n addas i chi.
- Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Font'.
- Yn ôl yn 'Fonts and colours', cliciwch ar y bocs ar ochr dde 'Background colour' a dewis lliw o'r palet sy'n ymddangos.
- I newid lliwiau dolenni y buoch iddynt ac na fuoch iddynt hyd yn hyn, ewch i 'Link style' a chlicio ar y bocs 'My link style' ar y dde.
- Bydd y bocs 'Links style' yn ymddangos. Cliciwch ar y lliwiau a dewis lliw o'r palet sy'n ymddangos.
- Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Link style'.
- Dewiswch 'Page style'.
- Dan 'Author mode', tynnwch y tic oddi ar y bocsys wrth ymyl 'Page style sheet' a 'Page fonts and colours'.
- Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Preferences'.
Sut i newid arddull y ffont
- O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'File' a dewis 'Preferences'.
- Dewiswch 'Fonts and colours'.
- Nodwch y ffont yr hoffech ei newid, e.e. 'Normal' neu 'Heading 1'.
- Cliciwch y botwm 'Choose' ar y dde. Bydd hyn yn dod â bocs 'Font' ble gallwch newid y ffont, arddull y ffont a'i faint.
- Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Font'.
- I ddefnyddio'r ffontiau hyn pan fyddwch yn ymweld â phob gwefan yn y dyfodol dewiswch 'Page style' (dan 'Fonts and colours'.
- Dan 'Author mode', tynnwch y tic oddi ar y bocsys wrth ymyl 'Page style sheet' a 'Page fonts and colours.'
- Ticiwch y bocs wrth ymyl 'My fonts and colours'.
- Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Preferences'.
Sut i newid maint y ffont
- Gallwch ddewis Chwyddo cynnwys tudalen (testun a delweddau) rhwng 20% - 1000%
- O'r brif ddewislen, ewch i 'View' a dewis 'Zoom'
- Dewiswch chwyddo'r dudalen i'r maint sydd fwyaf addas i chi
Sut i stopio delweddau rhag lawrlwytho
Mae hyn yn caniatáu i chi weld testun yn unig a bydd y dudalen yn llwytho'n llawer cyflymach.
- O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'File' a dewis 'Preferences'.
- Dewiswch 'Multimedia'.
- Wrth ymyl 'Images' byddwch yn gweld cwymplen.
- Cliciwch ar y saeth i ehangu'r ddewislen a dewis 'Show no images'.
- Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Preferences'.