Gosodiadau'r porwr - Netscape (7)

Newid gosodiadau'r porwr

Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth edrych ar ein tudalennau, bydd y rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi newid y gosodiadau er mwyn newid y ffordd y dangosir y tudalennau. Efallai y bydd hyn yn gwneud y testun yn haws ei ddarllen.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi:

  • anwybyddu gosodiadau a nodir gan dudalen we
  • newid maint y ffont
  • newid arddull y ffont
  • newid lliw'r ffont
  • newid lliw'r cefndir
  • stopio delweddau rhag lawrlwytho (fel na allwch eu gweld).

Sut i wrth-wneud gosodiadau'r ffont a lliwiau

  • O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'Edit' a dewis 'Preferences'.
  • Dewiswch 'Appearance' ac yna 'Colours'.
  • Dan y pennawd 'When a web page provides its own colours and background' ticiwch y dewis wrth ymyl 'Use my chosen colours, ignoring the colours and background image specified'.
  • Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Preferences'.

Sut i newid lliw'r testun a'r cefndir

  • O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'Edit' a dewis 'Preferences'.
  • Dewiswch 'Appearance' ac yna 'Colours'.
  • Dan y pennawd 'Text and Background' dewiswch eich testun a lliwiau cefndir eich hun (testun du ar gefndir melyn sy'n rhoi'r gwrthgyferbyniad gorau).
  • I newid lliwiau dolenni y buoch iddynt ac na fuoch iddynt, cliciwch ar y lliwiau a dewis lliw o'r palet sy'n ymddangos.
  • Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Preferences'.

Sut i newid arddull y ffont

  • O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'Edit' a dewis 'Preferences'.
  • Dewiswch 'Appearance' ac yna 'Fonts'.
  • Newidiwch y ffont i osodiad o'ch dewis chi.
  • I ddefnyddio'r ffontiau hyn pan fyddwch yn ymweld â phob gwefan yn y dyfodol, tynnwch y tic oddi ar y dewis wrth ymyl 'Allow documents to use other fonts'.
  • Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Preferences'.

Sut i newid maint y ffont

  • O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'View' a dewis 'Text Zoom'.
  • Dewiswch faint priodol y testun, e.e. 'Larger'.
  • Mae Netscape hefyd yn caniatáu i chi ddewis maint y testun fel canran o'r gwreiddiol, e.e. 150%.

Sut i stopio delweddau rhag lawrlwytho

    Mae hyn yn caniatáu i chi weld testun yn unig a bydd y dudalen yn llwytho'n llawer cyflymach.

  • O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'Edit' a dewis 'Preferences'. Dewiswch 'Privacy & Security' ac yna 'Images'.
  • Dan y pennawd 'Image Acceptance Policy' ticiwch y dewis wrth ymyl 'Do not load any images'.
  • Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Preferences'.