Gosodiadau'r porwr - Internet Explorer (6 & 7)
Newid gosodiadau'r porwr
Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth edrych ar ein tudalennau, bydd y rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi newid y gosodiadau er mwyn newid y ffordd y dangosir y tudalennau. Efallai y bydd hyn yn gwneud y testun yn haws ei ddarllen.
Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi:
- anwybyddu gosodiadau a nodir gan dudalen we
- newid maint y ffont
- newid arddull y ffont
- newid lliw'r ffont
- newid lliw'r cefndir
- stopio delweddau rhag lawrlwytho (fel na allwch eu gweld).
Sut i wrth-wneud gosodiadau'r ffont a lliwiau
O ddewislen y porwr, ewch i ddewislen 'Tools' a dewis 'Internet Options'.
Cliciwch ar 'Accessibility', sydd i'w weld dan y tab 'General'.
Fe welwch y dewisiadau canlynol:
- anwybyddu lliwiau a nodir ar dudalennau gwe
- anwybyddu arddull ffontiau a nodir ar dudalennau gwe
- anwybyddu maint ffontiau a nodir ar dudalennau gwe
- ticiwch y dewisiadau sy'n briodol i chi
- cliciwch 'OK'
- cliciwch 'OK' eto i gau'r bocs 'Internet Options'.
Sut i newid lliw'r testun a'r cefndir
- O ddewislen y porwr, ewch i ddewislen 'Tools' a dewis 'Internet Options'.
- Cliciwch ar 'Colours', sydd i'w weld dan y tab 'General'.
- Tynnwch y tic oddi ar 'Use windows colours'.
- Dewiswch eich lliwiau eich hun ar gyfer testun a chefndir (testun du ar gefndir melyn sy'n rhoi'r gwrthgyferbyniad gorau).
- I newid lliwiau dolenni y buoch iddynt ac na fuoch iddynt, cliciwch ar y lliwiau a dewis lliw o'r palet sy'n ymddangos.
- Cliciwch 'OK'.
- Cliciwch 'OK' eto i gau'r bocs 'Internet Options'.
Sut i newid arddull y ffont
- O ddewislen y porwr, ewch i ddewislen 'Tools' a dewis 'Internet Options'.
- Cliciwch ar 'Accessibility', sydd i'w weld dan y tab 'General'.
- Ticiwch y dewis 'Ignore font styles specified on Web pages'.
- Cliciwch 'OK'.
- Yn ôl yn y tab 'General', cliciwch 'Fonts'.
- O'r sgrin hon gallwch newid y ffordd y mae eich tudalennau yn arddangos 'web page font' a 'plain text font.'
- Unwaith y byddwch wedi dewis eich gosodiadau, cliciwch 'OK'.
- Cliciwch 'OK' eto i gau'r bocs 'Internet Options'.
Sut i newid maint y ffont
- Ewch i 'View' a dewis 'Text Size' a dewis maint priodol y testun, e.e. 'largest'.
- Newidiwch fel bo'n briodol.
Sut i stopio delweddau rhag lawrlwytho
Mae hyn yn caniatáu i chi weld testun yn unig a bydd y dudalen yn llwytho'n llawer cyflymach.
- O'r brif ddewislen, ewch i ddewislen 'Tools' a dewis 'Internet Options'.
- Ewch i'r tab 'Advanced'.
- Sgroliwch i lawr y gosodiadau nes byddwch yn cyrraedd 'Multimedia'.
- Tynnwch y tic oddi ar 'Show pictures'.
- Cliciwch 'OK' i gau'r bocs 'Internet Options'.
Sut i newid lliw'r testun a'r cefndir
- O'r brif ddewislen, dewiswch 'Tools'.
- Dewiswch 'Options'.
- O blith y rhestr o ddewisiadau, dewiswch 'Content'.
- Yn yr adran 'Fonts & Colours', cliciwch fotwm 'Colours...'.
- Yma gallwch newid lliwiau'r cefndir a'r testun.
Sut i newid arddull y ffont a maint y ffont
- O'r brif ddewislen, dewiswch 'Tools'.
- Dewiswch 'Options'.
- O blith y rhestr o ddewisiadau, dewiswch 'Content'.
- Yn yr adran 'Fonts & Colours', gallwch ddewis 'Default font' gwahanol a dewis 'Size' arall sy'n addas ar gyfer eich anghenion.
Sut i stopio delweddau rhag lawrlwytho
- O'r brif ddewislen, dewiswch 'Tools'.
- Dewiswch 'Options'.
- O blith y rhestr o ddewisiadau, dewiswch 'Content'.
- Yn y rhestr o osodiadau sydd ar gael, tynnwch y tic oddi ar 'Load images.