Gosodiadau'r porwr - Firefox (3)

Newid gosodiadau'r porwr

Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth edrych ar ein tudalennau, bydd y rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi newid y gosodiadau er mwyn newid y ffordd y dangosir y tudalennau. Efallai y bydd hyn yn gwneud y testun yn haws ei ddarllen.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi:

  • anwybyddu gosodiadau a nodir gan dudalen we
  • newid maint y ffont
  • newid arddull y ffont
  • newid lliw'r ffont
  • newid lliw'r cefndir
  • stopio delweddau rhag lawrlwytho (fel na allwch eu gweld).

Sut i wrth-wneud gosodiadau'r ffont a lliwiau

  • O'r brif ddewislen, dewiswch 'View'.
  • Dewiswch 'Page Style' o'r ddewislen.
  • Yma gallwch ddiffodd gosodiadau'r ffont a'r lliwiau sy'n gymwys i NHS Jobs trwy ddewis 'No style'.

Sut i newid lliw'r testun a'r cefndir

  • O'r brif ddewislen, dewiswch 'Tools'.
  • Dewiswch 'Options'.
  • O blith y rhestr o ddewisiadau, dewiswch 'Content'.
  • Yn yr adran 'Fonts & Colours', cliciwch fotwm 'Colours...'.
  • Tynnwch y tic oddi ar 'Use system colours' ac 'Allow pages to choose their own colours, instead of my selections above.'

Sut i newid arddull y ffont a maint y ffont

  • O'r brif ddewislen, dewiswch 'Tools'.
  • Dewiswch 'Options'.
  • O blith y rhestr o ddewisiadau, dewiswch 'Content'.
  • Yn yr adran 'Fonts & Colours', gallwch ddewis 'Default font' gwahanol a dewis 'Size' arall sy'n addas ar gyfer eich anghenion.
  • Ewch i 'Advanced' a thynnwch y tic oddi ar 'Allow pages to choose their own fonts instead of my selections above.'

Sut i newid maint y ffont

Gallwch ddewis Chwyddo cynnwys tudalen (testun a delweddau) neu'r testun ar dudalen yn unig.

  • O'r brif ddewislen, ewch i 'View' a dewis 'Zoom'
  • Dewiswch 'Zoom in' neu 'Zoom out' i chwyddo'r dudalen i faint sydd fwyaf addas i chi

Sut i stopio delweddau rhag lawrlwytho

  • O'r brif ddewislen, dewiswch 'Tools'.
  • Dewiswch 'Options'.
  • O blith y rhestr o ddewisiadau, dewiswch 'Content'.
  • Yn y rhestr o osodiadau sydd ar gael, tynnwch y tic oddi ar y bocs 'Load images automatically'.