Ynghylch NHS Jobs

NHS Jobs yw'r gwasanaeth recriwtio ar lein un pwrpas ar gyfer y GIG. Bydd pob ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru a Lloegr yn hysbysebu cyfleoedd gwaith gyda NHS Jobs, gan arwain at tuag 20,000 o gyfleoedd bob mis.

NHS Jobs yw prif wasanaeth recriwtio ar lein y Deyrnas Unedig. Mae'n denu dros 6 miliwn o ymweliadau dros y we ac yn derbyn ceisiadau gan dros 250,000 o bobl yn chwilio am swyddi bob mis. Mae'r gwasanaeth yn rhoi mynediad at swyddi gweigion ar draws y GIG trwy un porth, ac yn cynnwys nodweddion a dulliau sy'n angenrheidiol er mwyn i gyflogwyr reoli eu prosesau recriwtio yn effeithiol. I gael mwy o wybodaeth wrth chwilio am swydd, gan gynnwys sut i fanteisio i'r eithaf ar NHS Jobs, ewch i'n hadran 'Cyngor i geiswyr swyddi'.

Mae NHS Jobs wedi arbed dros £240 miliwn i'r GIG ers cael ei lansio yn 2003. Gwnaed yr arbedion mwyaf trwy wario llai ar hysbysebu swyddi gan fod ymddiriedolaethau wedi dod i ddibynnu llai ar sianeli hysbysebu traddodiadol; a thrwy gostau gweinyddol is wrth i geisiadau ar lein ddod yn fwy niferus. Bydd NHS Jobs hefyd yn rhannu gwybodaeth am swyddi gweigion yn uniongyrchol gyda'r Ganolfan Byd Gwaith, gan helpu'r GIG i gefnogi cyflogaeth yn eu cymunedau lleol.

Mae dros 350 o yrfaoedd ar gael yn y GIG. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael a'r wybodaeth, sgiliau, hyfforddiant a phrofiad sy'n ofynnol i weithio yn y gwahanol yrfaoedd hyn, gan gynnwys unrhyw gefnogaeth a allai fod ar gael i'ch helpu i hyfforddi, ewch i'n chwaer-wefan NHS Careers.

Rhaid i bawb sy'n defnyddio NHS Jobs, boed i hysbysebu neu i wneud cais am swydd, gadw at ein Polisi Defnyddwyr Derbyniol. Gall methu gwneud hynny arwain at ddiddymu eich cofrestriad gyda'r wefan hon.

I gysylltu â NHS Jobs, defnyddiwch y dolenni Cysylltwch â ni ar ben y dudalen hon.

Straeon llwyddiant

Roedd hi mor hawdd dychwelyd i'r GIG
Fe wnes i gymhwyso fel nyrs flynyddoedd yn ôl ond yn anffodus bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'm gyrfa a'm rhif pin (cofrestriad) yn 2004 oherwydd ymrwymiadau teuluol.


Rhagor o Ddolenni