
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yw un o'r cyflogwyr mwyaf yn y byd, a'r mwyaf yn Ewrop, gyda thros 1.3 miliwn o staff.
Dyma ddiwrnod nodweddiadol i'r GIG:
Mae'r GIG yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd cyffrous a heriol i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth o ddifrif. Gyda thros 300 o yrfaoedd gwahanol ar gael, mae yna swydd i chi beth bynnag yw eich diddordebau, sgiliau neu gymwysterau.
Ni waeth pa faes yn y GIG y byddwch yn ymuno ag ef, byddwch yn dod yn rhan o dîm dawnus, brwdfrydig o bobl - sy'n ymroi i roi'r gofal a'r driniaeth orau i gleifion. Byddwch hefyd yn mwynhau un o'r pecynnau buddion mwyaf cystadleuol a hyblyg i gael eu cynnig gan unrhyw gyflogwr yn y Deyrnas Unedig.
Mae sicrwydd y bydd pawb sy'n ymuno â'r GIG yn derbyn cyflog sy'n cyfateb i'w gallu a'u cyfrifoldebau, ac yn cael pob cyfle i'w gynyddu trwy hyfforddiant a datblygiad.
Mae system dâl y GIG, a elwir yn Agenda ar gyfer Newid (AfC), yn gymwys i bob aelod o staff heblaw meddygon, deintyddion, a rheolwyr uchel iawn. Mae'r buddion yn cynnwys:
Mae'r GIG yn cydnabod pwysigrwydd cael cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd. Cafodd menter Gwella Bywydau Gwaith (IWL) ei chyflwyno yn 2000, ac y mae wedi helpu i greu newid go iawn yn niwylliant y GIG - gan ostwng pwysau, cynyddu cymhelliad, a gwella cynhyrchiant ymysg staff. Mae gweithio hyblyg yn golygu bod:
Mae'r GIG yn ymrwymo i gynnig cyfleoedd dysgu a datblygu i bob gweithiwr llawn amser a rhan amser. Does dim gwahaniaeth ble'r ydych yn dechrau o fewn y GIG, byddwch yn cael mynediad at hyfforddiant ychwanegol a chael pob cyfle i symud ymlaen o fewn y sefydliad.
Byddwch yn cael adolygiad personol bob blwyddyn a chynllun datblygu i gefnogi cynnydd eich gyrfa, a byddwch yn cael eich annog i symud ymlaen trwy'r Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth.
Cynllun Pensiwn y GIG yw un o'r rhai mwyaf hael a chynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig. Bydd pob gweithiwr newydd yn dod yn aelod yn awtomatig a byddwch yn cael pecyn ardderchog o fuddion pensiwn, wedi'i ddiogelu'n llawn rhag chwyddiant a'i warantu gan y llywodraeth. Edrychwch ar www.nhsbsa.nhs.uk/pensions i gael gwybod mwy am delerau ac amodau.
I gael gwybod mwy am weithio yn y GIG, y llwybrau gyrfa sydd ar gael a mwy am lwybrau mynediad, ewch i wefan NHS Careers.
